Jeremeia 48:1-47 BCN1988 - Bible AI

1Am Moab, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Gwae Nebo, canys fe'i hanrheithiwyd! Cywilyddiwyd a daliwyd Ciriathaim; cywilyddiwyd Misgab, a'i difetha.

2Ni bydd gogoniant Moab mwyach; yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn: 'Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!' Distewir dithau, Madmen, erlidia'r cleddyf di.

3Clyw waedd o Horonaim, 'Anrhaith a dinistr mawr!'

4Dinistriwyd Moab; clywir ei gwaedd hyd yn Soar.

5Canys dringant riw Luhith dan wylo'n chwerw; ac ar lechwedd Horonaim clywir cri ddolefus dinistr.

6Ffowch, dihangwch am eich einioes, fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.

7Am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a'th drysorau dy hun, cei dithau hefyd dy ddal; � Cemos i ffwrdd i gaethglud, ynghyd �'i offeiriaid a'i benaethiaid.

8Daw'r anrheithiwr i bob dinas, ni ddihanga un ohonynt; derfydd am y dyffryn, difwynir y gwastadedd, fel y dywed yr ARGLWYDD.

9Rhowch garreg fedd ar Moab, canys difodwyd hi'n llwyr; gwnaed ei dinasoedd yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.

10Melltith ar y sawl sy'n gwneud gwaith yr ARGLWYDD yn ddi-sut, melltith ar bwy bynnag sy'n atal ei gleddyf rhag gwaed.

11Bu'n esmwyth ar Moab erioed; gorffwysodd fel gwin ar ei waddod; nis tywalltwyd o lestr i lestr; nid aeth hi i gaethiwed. Felly y cadwodd ei blas, ac ni newidiodd ei sawr.

12Am hynny, wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "yr anfonaf rai i'w hysgwyd; ac ysgydwant hi, a gwac�u ei llestri a dryllio'r costrelau.

13A chywilyddir Moab o achos Cemos, fel y cywilyddiwyd Israel o achos Bethel, eu hyder hwy.

14Pa fodd y dywedwch, 'Cedyrn u375?m ni, a gwu375?r nerthol i ryfel'?

15Daeth anrheithiwr Moab a'i dinasoedd i fyny, a disgynnodd y gorau o'i hieuenctid i'r lladdfa," medd y Brenin � ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

16Daeth dinistr Moab yn agos, ac y mae ei thrychineb yn prysuro'n gyflym.

17Galarwch drosti, bawb sydd o'i hamgylch, bawb sy'n adnabod ei henw. Gofynnwch, 'Pa fodd y torrwyd y ffon gref a'r wialen hardd?'

18Disgyn o'th ogoniant, ac eistedd ar dir sychedig, ti, breswylferch Dibon; canys daeth anrheithiwr Moab yn dy erbyn, a dinistrio d'amddiffynfeydd.

19Saf ar ymyl y ffordd, a gw�l, ti, breswylferch Aroer; gofyn i'r sawl sy'n ffoi ac yn dianc, a dywed, 'Beth a ddigwyddodd?'

20Cywilyddiwyd Moab, a'i dinistrio; udwch, a llefwch. Mynegwch yn Arnon fod Moab yn anrhaith.

21Daeth barn ar y gwastadedd, ar Holon a Jahas a Meffaath,

22ar Dibon a Nebo a Beth-diblathaim;

23ar Ciriathaim a Beth-gamul a Beth-meon;

24ar Cerioth a Bosra, a holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos.

25Tynnwyd ymaith gorn Moab, a thorrwyd ei braich," medd yr ARGLWYDD.

26Gwnewch hi'n feddw, canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD; ymdrybaedded Moab yn ei chwydfa, a bydded felly'n gyff gwawd.

27Oni bu Israel yn gyff gwawd i ti, er nad oedd ymysg lladron, fel yr ysgydwit dy ben wrth s�n amdani?

28Cefnwch ar y dinasoedd, a thrigwch yn y creigiau, chwi breswylwyr Moab; byddwch fel colomen yn nythu yn ystlysau'r graig uwch yr hafn.

29Clywsom am falchder Moab, ac un falch iawn yw hi � balch, hy, ffroenuchel ac uchelgeisiol.

30Mi wn," medd yr ARGLWYDD, "ei bod yn haerllug; y mae ei hymffrost yn gelwydd, a'i gweithredoedd yn ffals.

31Am hynny fe udaf dros Moab; llefaf dros Moab i gyd, griddfanaf dros bobl Cir-heres.

32Wylaf drosot yn fwy nag yr wylir dros Jaser, ti, winwydden Sibma; estynnodd dy gangau hyd y m�r, yn cyrraedd hyd Jaser; ond rhuthrodd yr anrheithiwr ar dy ffrwythau ac ar dy gynhaeaf gwin.

33Bydd diwedd ar lawenydd a gorfoledd yn y doldir ac yng ngwlad Moab; gwnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau, ac ni fydd neb yn sathru � bloddest � bloddest nad yw'n floddest.

34Daw cri o Hesbon ac Eleale; codant eu llef hyd Jahas, o Soar hyd Horonaim ac Eglath-Shalisheia, oherwydd aeth dyfroedd Nimrim yn ddiffaith.

35Gwnaf ddiwedd yn Moab," medd yr ARGLWYDD, "ar y sawl sy'n offrymu mewn uchelfa, ac yn arogldarthu i'w dduwiau.

36Am hynny bydd fy nghalon yn dolefain fel sain ffliwt dros Moab, ac yn dolefain fel sain ffliwt dros wu375?r Cir-heres, oblegid darfu'r golud a gasglasant.

37Bydd pob pen yn foel a phob barf wedi ei heillio, archollir pob llaw, a bydd sachliain am y llwynau.

38Ar ben pob tu375? yn Moab, ac ym mhob heol, bydd galar, oherwydd drylliaf Moab fel llestr nad oes neb yn ei hoffi," medd yr ARGLWYDD.

39Pa fodd y malwyd hi? Udwch! Pa fodd y troes Moab ei gwegil o gywilydd? Felly y bydd Moab yn gyff gwawd ac yn achos arswyd i bawb o'i hamgylch."

40Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wele, bydd un fel eryr yn ehedeg, ac yn lledu ei adenydd dros Moab;

41gorchfygir y dinasoedd, ac enillir yr amddiffynfeydd, a bydd calon dewrion Moab, y diwrnod hwnnw, fel calon gwraig wrth esgor.

42Difethir Moab o fod yn bobl, canys ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD.

43Dychryn, ffos a magl sydd yn dy erbyn, ti breswylydd Moab," medd yr ARGLWYDD.

44Y sawl a ffy rhag y dychryn, fe syrth i'r ffos; a'r sawl a gyfyd o'r ffos, fe'i delir yn y fagl. Dygaf yr holl bethau hyn arni, ar Moab, ym mlwyddyn ei chosb," medd yr ARGLWYDD.

45Gerllaw Hesbon y safant, yn ffoaduriaid heb nerth; canys aeth t�n allan o Hesbon, a fflam o blas Sihon, ac yswyd talcen Moab a chorun plant y cythrwfl.

46Gwae di, Moab! Darfu am bobl Cemos; cymerwyd dy feibion ymaith i gaethglud, a'th ferched i gaethiwed.

47Eto byddaf yn adfer llwyddiant Moab yn y dyddiau diwethaf," medd yr ARGLWYDD. Dyna ddiwedd barnedigaeth Moab.

e>