Jeremeia 49:1-39 BCN1988 - Bible AI

1Am yr Ammoniaid, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Onid oes meibion gan Israel? Onid oes etifedd iddo? Pam, ynteu, yr etifeddodd Milcom diriogaeth Gad, a pham y mae ei bobl yn preswylio yn ninasoedd Israel?

2Am hynny, y mae'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y paraf glywed utgorn rhyfel yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a bydd yn garnedd anghyfannedd, a llosgir ei phentrefi � th�n; yna difreinia Israel y rhai a'i difreiniodd hi," medd yr ARGLWYDD.

3Uda, Hesbon, oherwydd anrheithiwyd Ai; gwaeddwch, ferched Rabba, gwisgwch wregys o sachliain, galarwch, rhedwch gan rwygo eich cyrff; canys � Milcom i gaethglud ynghyd �'i offeiriaid a'i benaethiaid.

4Pam yr ymffrosti yn dy ddyffrynnoedd? O ferch anffyddlon, sy'n ymddiried yn ei thrysorau cudd, ac yn dweud, 'Pwy a ddaw yn fy erbyn?'

5Yr wyf yn dwyn arswyd arnat," medd ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, "rhag pawb sydd o'th amgylch; fe'ch gyrrir allan, bob un ar ei gyfer, ac ni bydd neb i gynnull y ffoaduriaid.

6Ac wedi hynny adferaf lwyddiant yr Ammoniaid," medd yr ARGLWYDD.

7Am Edom, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Onid oes doethineb mwyach yn Teman? A ddifethwyd cyngor o blith y deallus, ac a fethodd eu doethineb hwy?

8Ffowch, trowch eich cefn, trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Dedan; canys dygaf drychineb Esau arno pan gosbaf ef.

9Pe d�i cynaeafwyr gwin atat, yn ddiau gadawent loffion grawn; pe d�i lladron liw nos, nid ysbeilient ond yr hyn a'u digonai.

10Ond yr wyf fi wedi llwyr ddinoethi Esau; datguddiais ei fannau cudd, ac nid oes ganddo unman i ymguddio. Difethwyd ei blant a'i dylwyth a'i gymdogion, ac nid ydynt mwyach.

11Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw; bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi."

12Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; "Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.

13Canys tyngais i mi fy hun," medd yr ARGLWYDD, "y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol."

14Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: "Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn, codwch i'r frwydr.

15Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd, yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.

16Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo; gwnaeth dy galon yn falch. Tydi sy'n trigo yn holltau'r graig ac yn glynu wrth grib y bryniau, er i ti osod dy nyth cyn uched �'r eryr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno," medd yr ARGLWYDD.

17Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.

18Fel pan ddinistriwyd Sodom a Gomorra a'u cymdogion," medd yr ARGLWYDD, "ni fydd neb yn aros nac yn ymweld � hi.

19Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, ymlidiaf hwy ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?

20Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Edom, a'i gynlluniau yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau, fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn ddiau, bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.

21Fe gryn y ddaear gan su373?n eu cwymp; clywir eu cri wrth y M�r Coch.

22Ie, bydd un yn codi, yn ehedeg fel eryr, ac yn lledu ei adenydd yn erbyn Bosra; a bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor."

23Am Ddamascus. "Gwaradwyddwyd Hamath ac Arpad, canys clywsant newydd drwg; cynhyrfir hwy gan bryder, fel y m�r na ellir ei dawelu.

24Llesgaodd Damascus, a throdd i ffoi; goddiweddodd dychryn hi, a gafaelodd cryndod a gwasgfa ynddi fel mewn gwraig wrth esgor.

25Mor wrthodedig yw dinas moliant, caer llawenydd!

26Am hynny fe syrth ei gwu375?r ifainc yn ei heolydd, a dinistrir ei holl filwyr y dydd hwnnw," medd ARGLWYDD y Lluoedd.

27Mi gyneuaf d�n ym mur Damascus, ac fe ddifa lysoedd Ben-hadad."

28Am Cedar, a theyrnasoedd Hasor, y rhai a drawyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Codwch, esgynnwch yn erbyn Cedar; anrheithiwch bobl y dwyrain.

29Cymerir ymaith eu pebyll a'u diadellau, llenni eu pebyll, a'u celfi i gyd; dygir eu camelod oddi arnynt, a bloeddir wrthynt, 'Dychryn ar bob llaw!'

30Ffowch, rhedwch ymhell; trigwch mewn cilfachau, chwi breswylwyr Hasor," medd yr ARGLWYDD; "oherwydd gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon gynllwyn, a lluniodd gynllun yn eich erbyn.

31Codwch, esgynnwch yn erbyn y genedl ddiofal, sy'n byw'n ddiogel," medd yr ARGLWYDD, "heb ddorau na barrau iddi, a'i phobl yn byw iddynt eu hunain.

32Bydd eu camelod yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail; gwasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd �'u talcennau'n foel; o bob cyfeiriad dygaf arnynt eu dinistr," medd yr ARGLWYDD.

33Bydd Hasor yn gynefin siacaliaid, ac yn anghyfannedd byth; ni fydd neb yn byw ynddi, nac unrhyw un yn aros yno."

34Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia am Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda:

35Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf am dorri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwy.

36Dygaf ar Elam bedwar gwynt, o bedwar cwr y nefoedd; gwasgaraf hwy tua'r holl wyntoedd hyn; ni bydd cenedl na ddaw ffoaduriaid Elam ati.

37Canys gyrraf ar Elam ofn o flaen eu gelynion ac o flaen y rhai sy'n ceisio'u heinioes; dygaf arnynt ddinistr, sef angerdd fy nigofaint,' medd yr ARGLWYDD. 'Gyrraf y cleddyf ar eu h�l, nes i mi eu llwyr ddifetha.

38A gosodaf fy ngorseddfainc yn Elam, a difa oddi yno y brenin a'r swyddogion,' medd yr ARGLWYDD.

39Ond yn y dyddiau diwethaf mi adferaf lwyddiant Elam," medd yr ARGLWYDD.

e>