Jeremeia 5:1-31 BCN1988 - Bible AI

1Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch; chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gael sy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd, er mwyn i mi ei harbed hi.

2Er iddynt ddweud, 'Byw yw'r ARGLWYDD', eto tyngu'n gelwyddog y maent."

3O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di? Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt; difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd. Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg, a gwrthod dychwelyd.

4Yna dywedais, "Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt, a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.

5Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan � hwy; fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw. Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau, a dryllio'r tresi.

6Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr, a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio; bydd llewpard yn gwylio'u dinasoedd ac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt; oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.

7Sut y maddeuaf iti am hyn? Y mae dy blant wedi fy ngadael, ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau. Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i du375?'r butain.

8Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus, pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.

9Onid ymwelaf � chwi am hyn?" medd yr ARGLWYDD. "Oni ddialaf ar y fath genedl � hon?

10Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy, ond peidiwch � gwneud diwedd llwyr. Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.

11Oherwydd bradychodd tu375? Israel a thu375? Jwda fi'n llwyr," medd yr ARGLWYDD.

12Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, "Ni wna ef ddim. Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;

13nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith. Fel hyn y gwneir iddynt."

14Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd: "Am i chwi siarad fel hyn, dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel t�n, a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.

15Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, du375? Israel, genedl o bell � hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt," medd yr ARGLWYDD, "cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.

16Y mae ei chawell saethau fel bedd agored; gwu375?r cedyrn ydynt oll.

17Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara; ysa dy feibion a'th ferched; ysa dy braidd a'th wartheg; ysa dy winwydd a'th ffigyswydd; distrywia � chleddyf dy ddinasoedd caerog, y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.

18Ac eto yn y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD, "ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.

19Pan ddywedwch, 'Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?', fe ddywedi wrthynt, 'Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.'

20Mynegwch hyn yn nhu375? Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,

21'Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall: y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.

22Onid oes arnoch fy ofn i?' medd yr ARGLWYDD. 'Oni chrynwch o'm blaen? Mi osodais y tywod yn derfyn i'r m�r, yn derfyn sicr na all ei groesi; pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant, pan rua'r dyfroedd nid �nt drosto.

23Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn; y maent yn parhau i wrthgilio.

24Ac ni ddywedant yn eu calon, "Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw, sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd, a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf."

25Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn, a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.

26Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl; y maent yn gwylio fel un yn gosod magl, ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.

27Fel y mae cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.

28Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras. Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg; ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo, ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.

29Onid ymwelaf � chwi am hyn?' medd yr ARGLWYDD. 'Oni ddialaf ar y fath genedl � hon?

30Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.

31Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd, a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol � hynny, a'm pobl yn hoffi'r peth. Ond beth a wnewch yn y diwedd?'"

>