Jeremeia 7:1-34 BCN1988 - Bible AI

1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.

2Saf ym mhorth tu375?'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: 'Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD.

3Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon.

4Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, "Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon."

5Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd,

6a pheidio � gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar �l duwiau eraill i'ch niwed eich hun,

7yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.

8'Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw.

9Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod?

10Eto yr ydych yn dod ac yn sefyll o'm blaen yn y tu375? hwn, y galwyd fy enw i arno, ac yn dweud, "Fe'n gwaredwyd er mwyn cyflawni'r holl ffieidd-dra hyn."

11Ai lloches lladron yn eich golwg yw'r tu375? hwn, y gelwir fy enw i arno? Ond yr wyf finnau hefyd wedi gweld hyn, medd yr ARGLWYDD.

12'Ewch yn awr i'm cysegr yn Seilo, lle y gwneuthum i'm henw drigo ar y dechrau, ac edrychwch ar yr hyn a wneuthum yno oherwydd drygioni fy mhobl Israel.

13Yn awr, gan i chwi wneud yr holl bethau hyn, medd yr ARGLWYDD, mi lefaraf finnau wrthych; mi lefaraf yn daer, ond ni chlywch; mi alwaf arnoch, ond nid atebwch.

14Fel y gwneuthum i Seilo, felly y gwnaf i'r tu375? hwn y galwyd fy enw i arno ac yr ymddiriedwch chwithau ynddo; ie, y lle a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.

15Taflaf chwi o'm gu373?ydd fel y teflais eich holl frodyr, holl ddisgynyddion Effraim.'

16Paid tithau � gwedd�o dros y bobl hyn, na chodi na llais na gweddi drostynt, a phaid ag eiriol arnaf, oherwydd ni wrandawaf arnat.

17Oni weli'r hyn a wn�nt yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

18Y mae'r plant yn casglu cynnud, y tadau yn cynnau t�n, a'r gwragedd yn tylino toes i wneud teisennau i frenhines y nef; y maent yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, er mwyn fy nigio i.

19Ai myfi y maent yn ei ddigio?" medd yr ARGLWYDD. "Onid hwy eu hunain, i'w cywilydd eu hunain?"

20Am hyn fe ddywed yr ARGLWYDD Dduw, "Wele, tywelltir fy llid a'm dicter ar y lle hwn, ar ddyn ac ar anifail, ar bren y dd�l, ac ar ffrwyth y ddaear; bydd yn llosgi heb ddiffodd."

21Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: "Chwanegwch eich poethoffrwm at eich aberthau; yna bwytewch y cig.

22Oherwydd ni ddywedais wrth eich hynafiaid, yn y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, na'u gorchymyn, ynghylch materion poethoffrwm ac aberth.

23Ond dyma'r gair a orchmynnais iddynt: 'Gwran-dewch ar fy llais, a byddaf yn Dduw i chwi, a byddwch chwithau'n bobl i mi; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnaf i chwi, iddi fod yn dda arnoch.'

24Ond ni wrandawsant nac estyn clust, ond rhodio yn �l eu barn eu hunain, ac yn ystyfnigrwydd eu calon ddrwg. Aethant yn �l ac nid ymlaen.

25o'r dydd y daeth eich hynafiaid o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi anfonais atoch bob dydd fy ngweision y proffwydi; anfonais hwy yn gyson.

26Ond ni wrandawsant arnaf nac estyn clust, ond caledu gwar a gwneud yn waeth na'u hynafiaid.

27Lleferi wrthynt yr holl bethau hyn, ond ni wrandawant arnat; gelwi arnynt, ac ni'th atebant.

28A dywedi wrthynt, 'Hon yw'r genedl a wrthododd wrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyniodd gerydd. Darfu am wirionedd; fe'i torrwyd ymaith o'u genau.'

29Cneifia dy wallt, bwrw ef ymaith. Cyfod gwynfan ar yr uchel-leoedd; gwrthododd yr ARGLWYDD y genhedlaeth y digiodd wrthi, a bwriodd hi ymaith.

30Canys gwnaeth pobl Jwda ddrwg yn fy ngolwg," medd yr ARGLWYDD, "trwy osod eu ffieidd-dra yn y tu375? y gelwir fy enw i arno, a'i halogi.

31Adeiladasant uchelfeydd i Toffet, sydd yn nyffryn Ben-hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn y t�n. Ni orchmynnais hyn, ac ni ddaeth i'm meddwl.

32Am hynny fe ddaw y dyddiau," medd yr ARGLWYDD, "nas gelwir mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa; a chleddir yn Toffet, o ddiffyg lle.

33Bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd neb i'w gyrru i ffwrdd.

34A pharaf i bob llais ddistewi yn ninasoedd Jwda a heolydd Jerwsalem, llais llawen a llon, llais priodfab a phriodferch. Bydd y wlad yn ddiffeithwch.

>