1Atebodd Job:
2Yn wir, chwi yw'r bobl, a chyda chwi y derfydd doethineb!
3Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau, ac nid wyf yn salach na chwi; yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?
4Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion, er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb; y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!
5Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd, a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.
6Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw � rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
7Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
8neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y m�r dy gyfarwyddo.
9Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
10Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
11Onid yw'r glust yn profi geiriau, fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?
13Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
14Os dinistria, nid adeiledir: os carchara neb, nid oes rhyddhad.
15Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder; a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.
16Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb; ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.
17Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth, a gwawdia farnwyr.
18Y mae'n datod gwregys brenhinoedd, ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.
19Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth, a lloria'r rhai sefydledig.
20Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt, a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.
21Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion, a gwanhau nerth y cryfion.
22Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch, ac yn troi'r fagddu yn oleuni.
23Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria; fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.
24Diddyma farn penaethiaid y ddaear, a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;
25ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni; fe wna iddynt simsanu fel meddwon.