1Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2Ai ateb � gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth, a llenwi ei fol �'r dwyreinwynt?
3A ddadleua ef � gair di-fudd, ac � geiriau di-les?
4Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb, ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.
5Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau, ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.
6Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi, a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.
7Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb? A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?
8A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw, ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?
9Beth a wyddost ti na wyddom ni? Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?
10Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus, rhai sy'n hu375?n na'th dad.
11Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw, a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?
12Beth a ddaeth dros dy feddwl? Pam y mae dy lygaid yn fflachio
13fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw, ac yn arllwys y geiriau hyn?
14Sut y gall neb fod yn ddieuog, ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?
15Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd, os nad yw'r nefoedd yn l�n yn ei olwg,
16beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr, ac yn yfed anghyfiawnder fel du373?r?
17Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf. Mynegaf i ti yr hyn a welais
18(yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud, ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;
19iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear, ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):
20bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes, trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.
21Su373?n dychryniadau sydd yn ei glustiau, a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.
22Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch; y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.
23Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur; gu373?yr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.
24Brawychir ef gan ofid a chyfyngder; llethir ef fel brenin parod i ymosod.
25Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw, ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,
26a rhuthro arno'n haerllug, a both ei darian yn drwchus;
27oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster, ac i'w lwynau dewychu � bloneg,
28fe drig mewn dinasoedd diffaith, mewn tai heb neb yn byw ynddynt, lleoedd sydd ar fin adfeilio.
29Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth, ac ni chynydda'i olud yn y tir.
30Ni ddianc rhag y tywyllwch. Deifir ei frig gan y fflam, a syrth ei flagur yn y gwynt.
31Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun, canys gwagedd fydd ei d�l.
32Bydd yn gwywo cyn ei amser, ac ni lasa'i gangen.
33Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden, a bwrw ei flodau fel olewydden.
34Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol, ac fe ysa'r t�n drigfannau breibwyr.
35Beichiogant ar flinder ac ymddu373?yn drwg, ac ar dwyll yr esgor eu croth."