Job 17:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau; beddrod fydd fy rhan.

2Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas; pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.

3Gosod dy hun yn feichiau drosof; pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?

4Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall, ni fydd i ti eu dyrchafu.

5Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion, bydd llygaid ei blant yn pylu.

6Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl; yr wyf yn un y maent yn poeri arno.

7Pylodd fy llygaid o achos gofid; aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.

8Synna'r cyfiawn at y fath beth, a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.

9Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd, a bydd y gl�n ei ddwylo yn ychwanegu nerth.

10Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig, eto ni chawn neb doeth yn eich plith.

11Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcanion a dyhead fy nghalon.

12Gwn�nt y nos yn ddydd � dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.

13Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref; cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;

14dywedaf wrth y pwll, 'Ti yw fy nhad', ac wrth lyngyr, 'Fy mam a'm chwaer'.

15Ble, felly, y mae fy ngobaith? A phwy a w�l obaith imi?

16Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol? Onid awn i gyd i'r llwch?"

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>