Job 18:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau? Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.

3Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid, ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?

4Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid! A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di? A symudir y graig o'i lle?

5Fe ddiffydd goleuni'r drygionus, ac ni chynnau fflam ei d�n.

6Fe dywylla'r goleuni yn ei babell, a diffydd ei lamp uwch ei ben.

7Byrhau a wna'i gamau cryfion, a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.

8Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun; y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9Cydia'r trap yn ei sawdl, ac fe'i delir yn y groglath.

10Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear, ac y mae magl ar ei lwybr.

11Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn, ac yn ymlid ar ei �l.

12Pan ddaw pall ar ei gryfder, yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.

13Ysir ei groen gan glefyd, a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;

14yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi, a'i ddwyn at Frenin Braw.

15Bydd estron yn trigo yn ei babell, a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.

16Crina'i wraidd oddi tanodd, a gwywa'i ganghennau uwchben.

17Derfydd y cof amdano o'r tir, ac nid erys ei enw yn y wlad.

18Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch, ac erlidir ef o'r byd.

19Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl, nac olynydd iddo yn ei drigfan.

20Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged, ac arswydant yn y Dwyrain.

21Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn; hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>