1Atebodd Job:
2Am ba hyd y blinwch fi, a'm dryllio � geiriau?
3Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith, ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni.
4Os yw'n wir imi gyfeiliorni, onid arnaf fi fy hun y mae'r bai?
5Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi, ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth,
6ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam � mi, ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.
7Os gwaeddaf, 'Trais', ni chaf ateb; os ceisiaf help, ni chaf farn deg.
8Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc, a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.
9Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf, a symudodd y goron oddi ar fy mhen.
10Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf; diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
11Enynnodd ei lid yn f'erbyn, ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
12Daeth ei fyddinoedd ynghyd; gosodasant sarn hyd ataf, ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.
13Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf, ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.
14Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod, ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.
15Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf; estron wyf yn eu golwg.
16Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb, er i mi erfyn yn daer arno.
17Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig, ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.
18Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos; pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.
19Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf; trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.
20Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn, a dihengais � chroen fy nannedd.
21Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion, oherwydd cyffyrddodd llaw Duw � mi.
22Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw? Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?
23O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu! O na chofnodid hwy mewn llyfr,
24wedi eu hysgrifennu � phin haearn a phlwm, a'u naddu ar garreg am byth!
25Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw, ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
26ac wedi i'm croen ddifa fel hyn, eto o'm cnawd caf weld Duw.
27Fe'i gwelaf ef o'm plaid; ie, fy llygaid fy hun a'i gw�l, ac nid yw'n ddieithr. Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.
28Os dywedwch, 'Y fath erlid a fydd arno, gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,'
29yna arswydwch rhag y cleddyf, oherwydd daw cynddaredd � chosb y cleddyf, ac yna y cewch wybod fod barn."