Job 2:1-13 BCN1988 - Bible AI

1Unwaith eto daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.

2Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, "O ble y daethost ti?" Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti."

3Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gu373?r cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos."

4Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, "Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes.

5Ond estyn di dy law a chyffwrdd �'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb."

6Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, "Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes."

7Ac aeth Satan allan o u373?ydd yr ARGLWYDD. Trawyd Job � chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun,

8a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw.

9Dywedodd ei wraig wrtho, "A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw."

10Ond dywedodd ef wrthi, "Yr wyt yn llefaru fel dynes ff�l; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?" Yn hyn i gyd ni phechodd Job � gair o'i enau.

11Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno �'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro.

12Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr.

13Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.

British and Foreign Bible Society, 1988
v>