Job 20:1-29 BCN1988 - Bible AI

1Yna atebodd Soffar y Naamathiad:

2Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb; am hynny atebaf ar frys.

3Clywais gerydd sy'n fy nifr�o; y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.

4Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau, er pan osodwyd pobl ar y ddaear,

5byr yw gorfoledd y drygionus, ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.

6Er i'w falchder esgyn i'r uchelder, ac i'w ben gyffwrdd �'r cymylau,

7eto derfydd am byth fel ei dom ei hun, a dywed y rhai a'i gwelodd, 'Ple mae ef?'

8Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod; fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.

9Y llygad a'i gwelodd, ni w�l mohono mwy, ac nid edrych arno yn ei le.

10Cais ei blant ffafr y tlawd, a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.

11Y mae ei esgyrn sy'n llawn egni yn gorwedd gydag ef yn y llwch.

12Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau, a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,

13ac yn anfodlon ei ollwng, ond yn ei ddal dan daflod ei enau,

14eto y mae ei fwyd yn ei gylla yn troi'n wenwyn asb iddo.

15Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu; bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.

16Sugna wenwyn yr asb, ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.

17Ni chaiff weld ffrydiau o olew, nac afonydd o f�l a llaeth.

18Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno; er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.

19Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd; cipiodd du375? nas adeiladodd.

20Ni u373?yr sut i dawelu ei chwant, ac ni ddianc dim rhag ei wanc.

21Nid oes gweddill iddo'i fwyta, ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.

22Wedi digoni ei chwant, �'n gyfyng arno; daw holl rym gofid arno.

23Pan fydd ar fedr llenwi ei fol, gyrrir arno angerdd llid, a'i dywallt i lawr i'w berfedd.

24Fe ffy rhag arfau haearn, ond fe'i trywenir gan y saeth bres.

25Tynnir hi allan o'i gorff, y blaen gloyw allan o'i fustl; daw dychrynfeydd arno.

26Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau; ysir ef gan d�n nad oes raid ei chwythu; difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.

27Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd, a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.

28Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei du375?, a llifogydd, yn nydd ei lid.

29Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw, a'r etifeddiaeth a osododd iddo."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>