1Atebodd Job:
2Gwrandewch eto ar fy ngeiriau; felly y rhowch gysur imi.
3Goddefwch i mi lefaru, ac wedi imi lefaru, cewch watwar.
4Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun? a pham na chaf fod yn ddiamynedd?
5Edrychwch arnaf, a synnwch, a rhowch eich llaw ar eich genau.
6Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo, a daw cryndod i'm cnawd.
7Pam y caiff yr annuwiol fyw, a heneiddio'n gadarnach eu nerth?
8Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas, a'u teulu yn eu hymyl.
9Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn, ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.
10Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth, a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.
11Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid, a dawnsia'u plant yn hapus.
12Canant gyda'r dympan a'r delyn, a byddant lawen wrth su373?n y pibau.
13Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd, a disgynnant i Sheol mewn heddwch.
14Dywedant wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym; ni fynnwn wybod dy ffyrdd.
15Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu, a pha fantais sydd inni os gwedd�wn arno?'
16Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant? Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.
17Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol, ac y daw eu dinistr arnynt hwy, ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?
18A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt, neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?
19A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant? Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.
20Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr, ac yfed o lid yr Hollalluog.
21Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei �l, pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
22A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw? Onid ef sy'n barnu'r beilchion?
23Bydd un farw yn ei lwyddiant, mewn llonyddwch a thawelwch,
24ei lwynau yn llawn braster, a m�r ei esgyrn yn iraidd.
25Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd, heb brofi daioni.
26Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd, a'r pryfed yn amdo drostynt.
27Yn awr gwn eich meddyliau, a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;
28oherwydd dywedwch, 'Ble'r aeth tu375?'r pendefig? a phle mae trigfannau'r annuwiol?'
29Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd? Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,
30yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr, ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?
31Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb? Pwy a d�l yn �l iddo am yr hyn a wnaeth?
32Pan ddygir ef i'r bedd, cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.
33Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno; bydd gorymdaith yn dilyn ar ei �l, a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.
34Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi? Nid oes ond twyll yn eich atebion."