1Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2A yw unrhyw un o werth i Dduw? Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?
3A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn, neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?
4Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu, ac yn dy ddwyn i farn?
5Onid yw dy ddrygioni'n fawr, a'th gamwedd yn ddiderfyn?
6Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos, a dygi ymaith ddillad y tlawd.
7Ni roddi ddu373?r i'r lluddedig i'w yfed, a gwrthodi fara i'r newynog.
8Y cryf sy'n meddiannu'r tir, a'r ffefryn a drig ynddo.
9Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw, ac ysigi freichiau'r amddifad.
10Am hyn y mae maglau o'th gwmpas, a daw ofn disymwth i'th lethu,
11a thywyllwch fel na elli weld, a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.
12Onid yw Duw yn uchder y nefoedd yn edrych i lawr ar y s�r sy mor uchel?
13Felly dywedi, 'Beth a u373?yr Duw? A all ef farnu trwy'r tywyllwch?
14Cymylau na w�l trwyddynt sy'n ei guddio, ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.'
15A gedwi di at yr hen ffordd y rhodiodd y drygionus ynddi?
16Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd, pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.
17Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym'. Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?
18Er iddo lenwi eu tai � daioni, pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho.
19Gw�l y cyfiawn hyn, a llawenha; a gwatwerir hwy gan y dieuog.
20Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf, ac ysodd y t�n eu llawnder.
21Cytuna ag ef, a chei lwyddiant; trwy hyn y daw daioni i ti.
22Derbyn gyfarwyddyd o'i enau, a chadw ei eiriau yn dy galon.
23Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd, a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,
24os ystyri aur fel pridd, aur Offir fel cerrig y nentydd,
25yna bydd yr Hollalluog yn aur iti, ac yn arian pur.
26Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog, a dyrchafu dy wyneb at Dduw.
27Cei wedd�o arno, ac fe'th wrendy, a byddi'n cyflawni dy addunedau.
28Pan wnei gynllun, fe lwydda iti, a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.
29Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch; yr isel ei fryd a wareda ef.
30Fe achub ef y dieuog; achubir ef am fod ei ddwylo'n l�n."