Job 23:1-17 BCN1988 - Bible AI

1Atebodd Job:

2Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.

3O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan!

4Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau � dadleuon.

5Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf.

6Ai gyda'i holl nerth y dadleuai � mi? Na, ond fe roddai sylw imi.

7Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.

8Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.

9Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i'r de, nis gwelaf.

10Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.

11Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro.

12Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.

13Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna.

14Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo.

15Am hyn yr arswydaf rhagddo; pan ystyriaf, fe'i hofnaf.

16Duw sy'n gwanychu fy nghalon; yr Hollalluog sy'n fy nychryn;

17nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf, na'r fagddu'n fy nghuddio.

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>