1Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog, ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod.
2Y mae'r annuwiol yn symud terfynau, ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.
3Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd, a thywysant ymaith ych y weddw.
4Gwthiant y tlawd o'r ffordd, a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.
5�nt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch; chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.
6Medant faes nad yw'n eiddo iddynt, a lloffant winllan yr anghyfiawn.
7Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad, heb gysgod rhag yr oerni.
8Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd; am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.
9Tynnir yr amddifad oddi ar y fron, a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.
10Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad, a newynant wrth gasglu ysgubau.
11Gwasgant yr olew rhwng y meini; sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.
12o'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw, ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth; ond ni rydd Duw sylw i'w cri.
13Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni, y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.
14Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofrudd i ladd yr anghenus a'r tlawd. Yn y nos y gweithia'r lleidr; y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.
15Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos, gan ddweud, 'Nid oes neb yn fy ngweld', ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.
16Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd � y rhain na wyddant beth yw goleuni.
17Y mae'r bore yr un fath �'r fagddu iddynt; eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.
18Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt; melltithiwyd eu cyfran yn y tir; ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.
19Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar �l eira, felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.
20Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn, ac ni chofir hwy mwyach; torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.
21Drygant yr un na ddygodd blant, ac ni wn�nt dda i'r weddw.
22Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth, a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.
23Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy; eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd.
24Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant; gwywant a chiliant fel hocys; gwywant fel brig y dywysen.
25Os nad felly y mae, pwy all fy ngwrthbrofi a gwneud fy ngeiriau'n ddim?"