Job 25:1-6 BCN1988 - Bible AI

1Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2Y mae awdurdod a dychryn gyda Duw sy'n peri heddwch yn yr uchelder.

3A ellir rhifo ei fyddinoedd? Ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?

4Sut y gall unrhyw un fod yn gyfiawn gerbron Duw? A pha fodd y gwneir yn l�n un a anwyd o wraig?

5Gw�l, nid yw'r lleuad yn rhoi goleuni pur, ac nid yw'r s�r yn l�n yn ei olwg.

6Beth, ynteu, am feidrolyn, y llyngyryn, ac un dynol, y pryfyn?"

British and Foreign Bible Society, 1988
v>