1Yna atebodd Job:
2O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym, a chynnal braich y di-nerth,
3a rhoi cyngor i'r diddeall, a mynegi digonedd o wir ddoethineb!
4I bwy yr oeddit yn traethu geiriau, a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?
5Cryna'r cysgodion yn y dyfnder, a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.
6Y mae Sheol yn noeth ger ei fron, ac nid oes gorchudd dros Abadon.
7Taena'r gogledd ar y gwagle, a gesyd y ddaear ar ddim.
8Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau, ac ni rwygir y cwmwl odanynt.
9Taena orchudd dros wyneb y lloer, a thyn ei gwmwl drosto.
10Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd, yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.
11Sigla colofnau'r nefoedd, a dychrynant pan gerydda.
12Tawelodd y m�r �'i nerth, a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.
13Cliriodd y nefoedd �'i wynt; trywanodd ei law y sarff wibiog.
14Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd; prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth. Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?"