Job 28:1-28 BCN1988 - Bible AI

1Y mae gwyth�en i arian, a gwely i'r aur a burir.

2Tynnir yr haearn o'r ddaear, a thoddir y garreg yn gopr.

3Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch, a chwilio hyd yr eithaf am y mwyn yn y tywyllwch dudew.

4Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb; fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr. Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl, gan siglo'n �l ac ymlaen.

5Ceir bwyd o'r ddaear, eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan d�n.

6Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir, a llwch aur sydd ynddi.

7Y mae llwybr na u373?yr hebog amdano, ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar, ac na theithiodd y llew arno.

9Estyn dyn ei law am y gallestr, a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10Egyr dwnelau yn y creigiau, a gw�l ei lygaid bopeth gwerthfawr.

11Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd, a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.

12Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall?

13Ni u373?yr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw.

14Dywed y dyfnder, "Nid yw gyda mi"; dywed y m�r yntau, "Nid yw ynof fi."

15Ni ellir rhoi aur yn d�l amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian.

16Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir, nac ychwaith �'r onyx gwerthfawr na'r saffir.

17Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial, na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.

18Ni bydd s�n am gwrel a grisial; y mae meddu doethineb yn well na gemau.

19Ni ellir cymharu ei gwerth �'r topas o Ethiopia, ac nid ag aur coeth y prisir hi.

20O ble y daw doethineb? a phle mae trigfan deall?

21Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw, a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.

22Dywedodd Abadon a marwolaeth, "Clywsom �'n clustiau s�n amdani."

23Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle.

24Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear, a gweld popeth sy dan y nefoedd.

25Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt, a rhannu'r dyfroedd � mesur,

26a gosod terfyn i'r glaw, a ffordd i'r mellt a'r taranau,

27yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi, fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.

28A dywedodd wrth ddynolryw, "Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>