Job 29:1-25 BCN1988 - Bible AI

1Aeth Job ymlaen �'i ddadl, gan ddweud:

2O na byddwn fel yn yr amser gynt, yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,

3pan wn�i i'w lamp oleuo uwch fy mhen, a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;

4pan oeddwn yn nyddiau f'anterth, a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;

5pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi, a'm plant o'm cwmpas.

6Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth, ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.

7Awn allan i borth y ddinas, ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgw�r;

8a phan welai'r llanciau fi, cilient, a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;

9peidiai'r arweinwyr � llefaru, a rhoddent eu llaw ar eu genau;

10tawai siarad y pendefigion, a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.

11Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd, a phan welai llygad, canmolai fi;

12oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai, a'r amddifad a'r diymgeledd.

13Bendith yr un ar ddarfod amdano a dd�i arnaf, a gwnawn i galon y weddw lawenhau.

14Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf; yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.

15Yr oeddwn yn llygaid i'r dall, ac yn draed i'r cloff.

16Yr oeddwn yn dad i'r tlawd, a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.

17Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn, a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.

18Yna dywedais, 'Byddaf farw yn f'anterth, a'm dyddiau mor niferus �'r tywod,

19a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd, a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,

20a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd, a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.'

21Gwrandawai pobl arnaf, a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.

22Wedi imi lefaru, ni ddywedent air; diferai fy ngeiriau arnynt.

23Disgwylient wrthyf fel am y glaw, ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.

24Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder? A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.

25Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt; eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu, fel un yn cysuro'r galarus.

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>