Job 37:1-24 BCN1988 - Bible AI

1Am hyn hefyd y mae fy nghalon yn cynhyrfu, ac yn llamu o'i lle.

2Gwrandewch ar daran ei lais, a'r atsain a ddaw o'i enau.

3Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren, ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.

4Ar eu h�l fe rua; tarana �'i lais mawr, ac nid yw'n eu hatal pan glywir ei lais.

5Tarana Duw yn rhyfeddol �'i lais; gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.

6Fe ddywed wrth yr eira, 'Disgyn ar y ddaear', ac wrth y glaw a'r cawodydd, 'Trymhewch'.

7Y mae pob un yn cael ei gau i mewn, a phopeth a wn�nt yn cael ei atal.

8�'r anifeiliaid i'w ffeuau, ac aros yn eu gw�l.

9Daw'r corwynt allan o'i ystafell, ac oerni o'r tymhestloedd.

10Daw anadl Duw �'r rhew, a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11Lleinw'r cwmwl hefyd � gwlybaniaeth, a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn, i wneud y cyfan a ddywed wrthynt, dros wyneb daear gyfan.

13Gwna hyn naill ai fel cosb, neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.

14Gwrando ar hyn, Job; aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

15A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu, ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?

16A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau, rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?

17Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad pan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,

18a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren, sy'n galed fel drych o fetel tawdd?

19Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho; oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.

20A ellir dweud wrtho, 'Yr wyf fi am lefaru', neu fynegi iddo, 'Y mae hwn am siarad'?

21Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleuni pan yw'n ddisglair yn yr awyr, a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.

22Disgleiria o'r gogledd fel aur; o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.

23Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog, y mae'n fawr ei nerth; yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.

24Am hyn, y mae pawb yn ei ofni, a phob un doeth yn edrych ato."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>