Job 39:1-30 BCN1988 - Bible AI

1A wyddost ti amser llydnu y geifr gwylltion? A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,

2yn cyfrif y misoedd a gyflawnant ac yn gwybod amser eu llydnu?

3Y maent yn crymu i eni eu llydnod, ac yn bwrw eu brych.

4Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes, yn mynd ymaith, ac ni dd�nt yn �l.

5Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt, ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym

6y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo, a thir diffaith yn lle iddo fyw?

7Y mae'n gas ganddo su373?n y dref; y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.

8Crwydra'r mynyddoedd am borfa, a chwilia am bob blewyn glas.

9A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth, a threulio'r nos wrth dy breseb?

10A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych, neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy �l?

11A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf? A adewi dy lafur iddo?

12A ymddiriedi ynddo i ddod �'th rawn yn �l, a'i gasglu i'th lawr dyrnu?

13Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys, ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;

14y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear, i ddeor yn y pridd,

15gan anghofio y gellir eu sathru dan draed, neu y gall anifail gwyllt eu mathru.

16Y mae'n esgeulus o'i chywion, ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi, heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.

17Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb, ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.

18Ond pan gyfyd a rhedeg, gall chwerthin am ben march a'i farchog.

19Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march, ac yn gwisgo'i war � mwng?

20Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust, a gweryru nes creu dychryn?

21Cura'r llawr �'i droed, ac ymffrostia yn ei nerth pan � allan i wynebu'r frwydr.

22Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw; ni thry'n �l rhag y cleddyf.

23O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau, fflach y cleddyf a'r waywffon.

24Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear; ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.

25Pan glyw'r utgorn, dywed, 'Aha !' Fe synhwyra frwydr o bell, trwst y capteiniaid a'u bloedd.

26Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfan a lledu ei adenydd tua'r De?

27Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfan a gosod ei nyth yn uchel?

28Fe drig ar y graig, ac aros yno yng nghilfach y graig a'i diogelwch.

29Oddi yno y chwilia am fwyd, gan edrych i'r pellter.

30Y mae ei gywion yn llowcio gwaed; a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>