Job 4:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd? Eto pwy a all atal geiriau?

3Wele, buost yn cynghori llawer ac yn nerthu'r llesg eu dwylo;

4cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig, a chadarnhau'r gliniau gwan.

5Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd; cyffyrddodd � thi, ac yr wyt mewn helbul.

6Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti, ac uniondeb dy fywyd yn obaith?

7Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog, a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?

8Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.

9Difethir hwy gan anadl Duw, a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.

10Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf; pydra dannedd y llewod ifanc.

11Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth, a gwneir yn amddifad genawon y llewes.

12Daeth gair ataf fi yn ddirgel; daliodd fy nghlust sibrwd ohono

13yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos, pan ddaw trymgwsg ar bawb.

14Daeth dychryn a chryndod arnaf, a chynhyrfu fy holl esgyrn.

15Llithrodd awel heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.

16Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd; yr oedd ffurf o flaen fy llygaid; bu distawrwydd, yna clywais lais:

17'A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw, ac yn burach na'i Wneuthurwr?

18Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision, ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,

19beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr, llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.

21Pan ddatodir llinyn eu pabell, oni fyddant farw heb ddoethineb?'

British and Foreign Bible Society, 1988
v>