1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job:
2A ddylai un sy'n dadlau �'r Hollalluog fod yn ystyfnig? Caiff yr un sy'n ymryson � Duw ateb am hynny."
3Yna atebodd Job:
4Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud? Rhof fy llaw ar fy ngheg.
5Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto; do ddwywaith, ac ni chwanegaf."
6Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
7Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
8A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn, ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?
9A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw? A fedri daranu �'th lais fel y gwna ef?
10Addurna dy hun � balchder ac urddas, a gwisga ogoniant a harddwch.
11Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig; edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.
12Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio; sathra'r rhai drygionus yn eu lle.
13Cuddia hwy i gyd yn y llwch; cuddia'u hwynebau o'r golwg.
14Yna fe'th ganmolaf am fod dy law dde'n dy waredu.
15Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg � thi; y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.
16Y mae ei nerth yn ei lwynau, a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.
17Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden, a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.
18Y mae ei esgyrn fel pibellau pres, a'i goesau fel barrau haearn.
19Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw; gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.
20Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo; yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.
21Fe orwedd dan y lotus, a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.
22Y mae'r lotus yn gysgod drosto, a helyg yn y nant yn ei guddio.
23Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa; byddai'n ddifraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.
24A ellir ei fachu yn ei lygaid, a gwthio tryfer i'w drwyn?