Job 5:1-27 BCN1988 - Bible AI

1Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb? At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?

2Y mae dicter yn lladd yr ynfyd, a chenfigen yn dwyn angau i'r ff�l.

3Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd, ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;

4ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared, wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.

5Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef, ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain; ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.

6Canys nid o'r pridd y daw gofid, nac o'r ddaear orthrymder;

7ond genir dynion i orthrymder, cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.

8Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i, a gosod fy achos o'i flaen ef,

9yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, rhyfeddodau dirifedi.

10Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear, a'r dyfroedd ar y meysydd.

11Y mae'n codi'r rhai isel i fyny, a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys; ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

13Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra, a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

14Brwydrant � thywyllwch hyd yn oed liw dydd, ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.

15Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael, a'r truan o afael y cryf.

16Am hynny y mae gobaith i'r tlawd, ac anghyfiawnder yn cau ei safn.

17Dedwydd y sawl a gerydda Duw, ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.

18Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur; ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.

19Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder; ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.

20Fe'th achub di rhag marw mewn newyn, a rhag y cleddyf mewn brwydr.

21Cei loches rhag ffrewyll y tafod, ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.

22Chwerddi ar ddinistr a newyn, ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.

23Byddi mewn cynghrair � cherrig y tir, a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch � thi.

24Yna gweli fod dy babell yn ddiogel, a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.

25Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth, a'th epil fel gwellt y maes.

26Ei i'r bedd mewn henaint teg, fel y cesglir ysgub yn ei phryd.

27Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir; gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun."

British and Foreign Bible Society, 1988
v>