Job 6:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Atebodd Job:

2O na ellid pwyso fy nhrallod, a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!

3Yna byddai'n drymach na thywod y m�r; am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.

4Y mae saethau'r Hollalluog ynof; yfodd fy ysbryd eu gwenwyn; dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.

5A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt? A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?

6A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen? A oes blas ar sudd y malws?

7Y mae fy stumog yn eu gwrthod; y maent fel pydredd fy nghnawd.

8O na dd�i fy nymuniad i ben, ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!

9O na ryngai fodd i Dduw fy nharo, ac estyn ei law i'm torri i lawr!

10Byddai o hyd yn gysur imi, a llawenhawn yn yr ing diarbed (nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).

11Pa nerth sydd gennyf i obeithio, a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?

12Ai nerth cerrig yw fy nerth? Ai pres yw fy nghnawd?

13Wele, nid oes imi gymorth ynof, a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.

14Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf, er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.

15Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol; fel nentydd sy'n gorlifo,

16yn dywyll gan rew, ac eira yn cuddio ynddynt.

17Ond pan ddaw poethder fe beidiant, ac yn y gwres diflannant o'u lle.

18Troella'r carafanau yn eu ffyrdd, crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.

19Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt, a marsiand�wyr Sheba yn disgwyl wrthynt.

20Cywilyddir hwy yn eu hyder; d�nt atynt, ac fe'u siomir.

21Felly yr ydych chwithau i mi; gwelwch drychineb, a dychrynwch.

22A ddywedais o gwbl, 'Rhowch imi, ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;

23achubwch fi o afael y gelyn, a rhyddhewch fi o afael gormeswyr'?

24Hyfforddwch fi, a thawaf; a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.

25Mor ddiflas yw geiriau uniawn! Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?

26A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau, gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?

27A fwriech goelbren am yr amddifad, a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?

28Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf; ai celwydd a ddywedaf yn eich gu373?ydd?

29Trowch; na foed anghyfiawnder. Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.

30A oes anghyfiawnder ar fy nhafod? Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?

British and Foreign Bible Society, 1988
v>