1Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear, a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?
2Fel caethwas yn dyheu am gysgod, a gwas yn disgwyl am ei d�l,
3felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau, a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.
4Pan orweddaf, dywedaf, 'Pa bryd y caf godi?' Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.
5Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi; crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.
6Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd; darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.
7Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl; ni w�l fy llygaid ddaioni eto.
8Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gw�l; ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.
9Fel y cilia'r cwmwl a diflannu, felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;
10ni ddaw eto i'w gartref, ac nid edwyn ei le mohono mwy.
11Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau; llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd, cwynaf yn chwerwder fy enaid.
12Ai'r m�r ydwyf, neu'r ddraig, gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?
13Pan ddywedaf, 'Fy ngwely a rydd gysur imi; fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn',
14yr wyt yn fy nychryn � breuddwydion, ac yn f'arswydo � gweledigaethau.
15Gwell fyddai gennyf fy nhagu, a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.
16Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith. Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.
17Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried, ac iti roi cymaint o sylw iddo?
18Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore, ac yn ei brofi bob eiliad.
19Pa bryd y peidi ag edrych arnaf, ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?
20Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw? Pam y cymeraist fi'n nod, nes fy mod yn faich i mi fy hun?
21Pam na faddeui fy nhrosedd a symud fy mai? Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch, ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael."