Job 8:1-22 BCN1988 - Bible AI

1Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2Am ba hyd y lleferi fel hyn, a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?

3A yw Duw yn gwyrdroi barn? A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?

4Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn, fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.

5Os ceisi di Dduw yn ddyfal, ac ymbil ar yr Hollalluog,

6ac os wyt yn bur ac uniawn, yna fe wylia ef drosot, a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.

7Pe byddai dy ddechreuad yn fychan, byddai dy ddiwedd yn fawr.

8Yn awr gofyn i'r oes a fu, ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.

9Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus u375?m, a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.

10Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt, a rhoi atebion deallus?

11A dyf brwyn lle nad oes cors? A ffynna hesg heb ddu373?r?

12Er eu bod yn ir a heb eu torri, eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.

13Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw, ac y derfydd gobaith yr annuwiol.

14Edau frau yw ei hyder, a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.

15Pwysa ar ei du375?, ond ni saif; cydia ynddo, ond ni ddeil.

16Bydd yn ir yn llygad yr haul, yn estyn ei frigau dros yr ardd;

17ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig, a daw i'r golwg rhwng y meini.

18Ond os diwreiddir ef o'i le, fe'i gwedir: 'Ni welais di'.

19Gwywo felly yw ei natur; ac yna tyf un arall o'r pridd.

20Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn, ac ni chydia yn llaw y drygionus.

21Lleinw eto dy enau � chwerthin, a'th wefusau � gorfoledd.

22Gwisgir dy elynion � gwarth, a diflanna pabell y drygionus."

British and Foreign Bible Society, 1988
v>