1Atebodd Job:
2Gwn yn sicr fod hyn yn wir, na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.
3Os myn ymryson ag ef, nid etyb ef unwaith mewn mil.
4Y mae'n ddoeth a chryf; pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?
5Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod, ac yn eu dymchwel yn ei lid.
6Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, a chryna'i cholofnau.
7Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio � chodi, ac yn gosod s�l ar y s�r.
8Taenodd y nefoedd ei hunan, a sathrodd grib y m�r.
9Creodd yr Arth ac Orion, Pleiades a chylch S�r y De.
10Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, a rhyfeddodau dirifedi.
11Pan � heibio imi, nis gwelaf, a diflanna heb i mi ddirnad.
12Os cipia, pwy a'i rhwystra? Pwy a ddywed wrtho, 'Beth a wnei?'?
13Ni thry Duw ei lid ymaith; ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.
14Pa faint llai yr atebwn i ef, a dadlau gair am air ag ef?
15Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid, dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.
16Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb, ni chredwn y gwrandawai arnaf.
17Canys heb reswm y mae'n fy nryllio, ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.
18Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl, ond y mae'n fy llenwi � chwerwder.
19Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn?
20Pe bawn gyfiawn, condemniai fi �'m geiriau fy hun; pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.
21Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun; yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.
22Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.
23Os dinistr a ladd yn ddisymwth, fe chwardd am drallod y diniwed.
24Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus, fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr. Os nad ef, pwy yw?
25Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr; y maent yn diflannu heb weld daioni.
26Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn, fel eryr yn disgyn ar gelain.
27Os dywedaf, 'Anghofiaf fy nghwyn, newidiaf fy mhryd a byddaf lawen',
28eto arswydaf rhag fy holl ofidiau; gwn na'm hystyri'n ddieuog.
29A bwrw fy mod yn euog, pam y llafuriaf yn ofer?
30Os ymolchaf � sebon, a golchi fy nwylo � soda,
31yna tefli fi i'r ffos, a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.
32Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb, ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.
33O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom, ac i osod ei law arnom ein dau,
34fel y symudai ei wialen oddi arnaf, ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!
35Yna llefarwn yn eofn. Ond nid felly y caf fy hun.