1Canwch utgorn yn Seion, bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd. Cryned holl drigolion y wlad am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod; y mae yn agos �
2dydd o dywyllwch ac o gaddug, dydd o gymylau ac o dd�wch. Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd, wele luoedd mawr a chryf; ni fu eu bath erioed, ac ni fydd ar eu h�l ychwaith am genedlaethau dirifedi.
3Ysa t�n o'u blaen a llysg fflam ar eu h�l. Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden, ond ar eu h�l yn anialwch diffaith, ac ni ddianc dim rhagddo.
4Y maent yn ymddangos fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5Fel torf o gerbydau neidiant ar bennau'r mynyddoedd; fel su373?n fflamau t�n yn ysu sofl, fel byddin gref yn barod i ryfel.
6Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt, a gwelwa pob wyneb.
7Rhuthrant fel milwyr, dringant y mur fel rhyfelwyr; cerdda pob un yn ei flaen heb wyro o'i reng.
8Ni wthiant ar draws ei gilydd, dilyn pob un ei lwybr ei hun; er y saethau, ymosodant ac ni ellir eu hatal.
9Rhuthrant yn erbyn y ddinas, rhedant dros ei muriau, dringant i fyny i'r tai, �nt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
10Ysgwyd y ddaear o'u blaen a chryna'r nefoedd. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu a'r s�r yn atal eu goleuni.
11Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin; y mae ei lu yn fawr iawn, a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf. Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12Yn awr," medd yr ARGLWYDD, "dychwelwch ataf �'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar.
13Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw." Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14Pwy a u373?yr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei �l � bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15Canwch utgorn yn Seion, cyhoeddwch ympryd, galwch gymanfa,
16cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr.
17Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, "Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid � gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, 'Ple mae eu Duw?'"
18Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir, a thrugarhau wrth ei bobl.
19Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl, "Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew nes eich digoni; ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych, a'i yrru i dir sych a diffaith, �'i reng flaen at f�r y dwyrain a'i reng �l at f�r y gorllewin; bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi, am iddo ymorchestu."
21Paid ag ofni, ddaear; bydd lawen a gorfoledda, oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion, oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas; bydd y coed yn dwyn ffrwyth, a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23Blant Seion, byddwch lawen, gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw; oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol; fe dywallt y glawogydd ichwi, y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24Bydd y llawr dyrnu yn llawn o u375?d a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr, y locust difaol a'r cyw locust, fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.
26Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni, a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw, a wnaeth ryfeddod � chwi. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
27Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
28Ar �l hyn tywalltaf fy ysbryd ar bawb; bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion, a'ch gwu375?r ifainc yn cael gweledigaethau.
29Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.
30Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear, gwaed a th�n a cholofnau mwg.
31Troir yr haul yn dywyllwch a'r lleuad yn waed cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
32A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub, oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.