Joel 3:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw, pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,

2fe gasglaf yr holl genhedloedd a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat, a mynd i farn � hwy yno ynglu375?n �'m pobl a'm hetifeddiaeth, Israel, am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd a rhannu fy nhir,

3a bwrw coelbren am fy mhobl, a chynnig bachgen am butain, a gwerthu geneth am win a'i yfed.

4Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n �l i mi yr ydych? Os talu'n �l i mi yr ydych, fe ddychwelaf y t�l ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan.

5Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.

6Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.

7Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich t�l ar eich pen chwi eich hunain.

8Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell." Yr ARGLWYDD a lefarodd.

9Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd: 'Ymgysegrwch i ryfel; galwch y gwu375?r cryfion; doed y milwyr ynghyd i ymosod.

10Curwch eich ceibiau'n gleddyfau a'ch crymanau'n waywffyn; dyweded y gwan, "Rwy'n rhyfelwr."

11'Dewch ar frys, chwi genhedloedd o amgylch, ymgynullwch yno.'" Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.

12Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyd a dyfod i ddyffryn Jehosaffat; oherwydd yno'r eisteddaf mewn barn ar yr holl genhedloedd o amgylch.

13Codwch y cryman, y mae'r cynhaeaf yn barod; dewch i sathru, y mae'r gwinwryf yn llawn; y mae'r cafnau'n gorlifo, oherwydd mawr yw eu drygioni."

14Tyrfa ar dyrfa yn nyffryn y ddedfryd, oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDD yn nyffryn y ddedfryd.

15Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu, a'r s�r yn atal eu goleuni.

16Rhua'r ARGLWYDD o Seion, a chodi ei lef o Jerwsalem; cryna'r nefoedd a'r ddaear. Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl, ac yn noddfa i blant Israel.

17Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd. A bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid � dieithriaid trwyddi eto.

18Yn y dydd hwnnw, difera'r mynyddoedd win newydd, a llifa'r bryniau o laeth, a bydd holl nentydd Jwda yn llifo o ddu373?r. Tardd ffynnon o du375?'r ARGLWYDD a dyfrhau dyffryn Sittim.

19Bydd yr Aifft yn anghyfannedd ac Edom yn anialwch diffaith, oherwydd y gorthrwm ar bobl Jwda wrth dywallt gwaed y dieuog yn eu gwlad.

20Ond erys Jwda dros byth a Jerwsalem dros genedlaethau.

21Dialaf eu gwaed, ac ni ollyngaf yr euog, a phreswylia'r ARGLWYDD yn Seion."

British and Foreign Bible Society, 1988
iv>