Josua 12:1-24 BCN1988 - Bible AI

1Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan yr Israeliaid ac y cymerwyd meddiant o'u tiroedd i'r dwyrain o'r Iorddonen, o nant Arnon hyd at Fynydd Hermon, gan gynnwys holl ddwyrain yr Araba:

2Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn byw yn Hesbon. Yr oedd ef yn llywodraethu o Aroer, sydd ar ymyl nant Arnon, dros hanner Gilead, hynny yw, o ganol nant Arnon hyd at nant Jabboc, terfyn yr Ammoniaid;

3hefyd dros ddwyrain yr Araba o lan M�r Cinneroth at lan m�r yr Araba, sef y M�r Marw, i gyfeiriad Bethjesimoth ac ymlaen i'r de dan lethrau Pisga.

4Og brenin Basan, un o weddill y Reffaim, a oedd yn byw yn Astaroth ac yn Edrei.

5Yr oedd ef yn llywodraethu dros Fynydd Hermon, Salcha, a Basan i gyd, hyd at derfyn y Gesuriaid a'r Maachathiaid, a thros hanner Gilead hyd at derfyn Sihon brenin Hesbon.

6Fe'u gorchfygwyd gan Moses gwas yr ARGLWYDD a'r Israeliaid; a rhoddodd Moses gwas yr ARGLWYDD y tir yn feddiant i'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse.

7Dyma frenhinoedd y wlad a drawyd gan Josua a'r Israeliaid i'r gorllewin o'r Iorddonen, o Baal-gad yn nyffryn Lebanon hyd at Fynydd Halac sy'n codi i gyfeiriad Seir. Rhoddodd Josua'r tir yn feddiant i lwythau Israel yn �l eu cyfrannau

8yn y mynydd-dir, y Seffela, yr Araba, y llechweddau, y diffeithwch a'r Negef; yno'r oedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid. Dyma'r brenhinoedd:

9brenin Jericho, brenin Ai ger Bethel,

10brenin Jerwsalem, brenin Hebron,

11brenin Jarmuth, brenin Lachis,

12brenin Eglon, brenin Geser,

13brenin Debir, brenin Geder,

14brenin Horma, brenin Arad,

15brenin Libna, brenin Adulam,

16brenin Macceda, brenin Bethel,

17brenin Tappua, brenin Heffer,

18brenin Affec, brenin Lasaron,

19brenin Madon, brenin Hasor,

20brenin Simron-meron, brenin Achsaff,

21brenin Taanach, brenin Megido,

22brenin Cedes, brenin Jocneam yng Ngharmel,

23brenin Dor yn Naffath-dor, brenin Goim yn Gilgal,

24brenin Tirsa. Yr oedd tri deg ac un o frenhinoedd i gyd.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>