1Wedi i Josua heneiddio a mynd i oed, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Yr wyt yn hen ac wedi mynd i oed, ac y mae llawer iawn o dir yn aros i'w feddiannu.
2Dyma'r tir sydd ar �l: holl ardaloedd y Philistiaid ac eiddo'r Gesuriaid i gyd
3(i'r Canaaneaid y cyfrifir y tir o'r afon Sihor sydd ar drothwy'r Aifft hyd derfyn Ecron i'r gogledd, sef cylchoedd pum teyrn y Philistiaid: Gasa, Asdod, Ascalon, Gath ac Ecron), a thir yr Afiaid
4yn y de; holl wlad y Canaaneaid, yn cynnwys Meara sy'n perthyn i'r Sidoniaid, hyd at Affec a therfyn yr Amoriaid;
5hefyd tir y Gebaliaid a Lebanon i gyd i'r dwyrain o Baal-gad islaw Mynydd Hermon, hyd at Lebo-hamath.
6Byddaf yn gyrru ymaith y Sidoniaid i gyd, holl drigolion y mynydd-dir, o Lebanon hyd Misreffoth-maim, o flaen yr Israeliaid; rhanna di'r etifeddiaeth i Israel fel y gorchmynnais iti.
7Rhanna'n awr y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth ac i hanner llwyth Manasse."
8Y mae hanner arall y llwyth, a hefyd Reuben a Gad, wedi cymryd yr etifeddiaeth a roddodd Moses iddynt i'r dwyrain o'r Iorddonen, fel yr oedd ef, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei nodi ar eu cyfer:
9o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd o Medeba hyd Dibon;
10a holl ddinasoedd Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon, hyd at derfyn yr Ammoniaid,
11a Gilead hefyd a thiriogaeth y Gesuriaid a'r Maachathiaid, sef holl fynydd-dir Hermon, a Basan i gyd hyd at Salcha,
12sef y cwbl yn Basan o deyrnas Og a lywodraethai o Astaroth ac Edrei. Yr oedd ef yn un o weddill y Reffaim a drawyd gan Moses a'u gyrru allan.
13Ni yrrodd yr Israeliaid y Gesuriaid a'r Maachathiaid allan, ond y maent yn byw ymysg yr Israeliaid hyd heddiw.
14Ni roddwyd etifeddiaeth i lwyth Lefi; oherwydd offrymau trwy d�n yr ARGLWYDD, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.
15Yr oedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i lwyth Reuben yn �l eu teuluoedd.
16Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd hyd at Medeba;
17yr oedd yn cynnwys Hesbon a'i holl drefi ar y gwastadedd, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,
18Jahas, Cedemoth, Meffaath,
19Ciriathaim, Sibma, Sereth-sahar ar fynydd y glyn,
20Beth-peor, llethrau Pisga a Beth-jesimoth,
21sef holl drefi'r gwastadedd a holl deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon ond a laddwyd gan Moses ynghyd � thywysogion Midian, Efi, Recem, Sur, Hur a Reba, pendefigion Sihon oedd yn byw yn y wlad.
22Yr oedd Balaam fab Beor, y dewin, yn un o'r rhai a laddwyd gan yr Israeliaid �'r cleddyf.
23Yr Iorddonen a'i goror oedd terfyn llwyth Reuben; a dyna'u hetifeddiaeth yn �l eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.
24Rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Gad yn �l eu teuluoedd.
25Eu tiriogaeth hwy oedd Jaser a holl drefi Gilead a hanner tir yr Ammoniaid hyd at Aroer sydd o flaen Rabba;
26yna o Hesbon at Ramath-mispa a Betonim, ac o Mahanaim at derfyn Lo-debar;
27yna, yn y dyffryn, Beth-haram, Beth-nimra, Succoth a Saffon, gweddill teyrnas Sihon brenin Hesbon; yr Iorddonen oedd y terfyn at gwr isaf M�r Cinnereth i'r dwyrain o'r Iorddonen.
28Dyma etifeddiaeth Gad yn �l eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.
29Rhoddodd Moses etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse yn �l eu teuluoeoedd.
30Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Mahanaim ac yn cynnwys Basan i gyd, holl deyrnas Og brenin Basan, a'r cwbl o Hafoth-jair yn Basan, sef trigain tref.
31Aeth hanner Gilead ynghyd ag Astaroth ac Edrei, dinasoedd brenhinol Og yn Basan, i feibion Machir fab Manasse, sef hanner llwyth Machir, yn �l eu teuluoedd.
32Dyma'r tiroedd a rannodd Moses yng ngwastadeddau Moab y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho.
33Ond ni roddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Lefi. Yr ARGLWYDD, Duw Israel, oedd eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.