1Yr oedd rhandir llwyth Jwda yn �l eu tylwythau yn ymestyn at derfyn Edom, yn anialwch Sin, ar gwr deheuol y Negef.
2Yr oedd eu terfyn deheuol yn rhedeg o gwr eithaf y M�r Marw, o'r gilfach sy'n wynebu tua'r Negef,
3ac ymlaen i'r de o riw Acrabbim heibio i Sin, yna i fyny i'r de o Cades-barnea, heibio i Hesron, i fyny at Addar ac yna troi am Carca.
4Wedi mynd heibio i Asmon, dilynai derfyn nant yr Aifft, nes cyrraedd y m�r. Hwn oedd eu terfyn deheuol.
5Y terfyn i'r dwyrain oedd y M�r Marw, cyn belled ag aber yr Iorddonen. Yr oedd y terfyn gogleddol yn ymestyn o gilfach y m�r, ger aber yr Iorddonen,
6i fyny at Beth-hogla, gan gadw i'r gogledd o Beth-araba ac ymlaen at faen Bohan fab Reuben.
7Yna �i'r terfyn o ddyffryn Achor i Debir, a thua'r gogledd i gyfeiriad Gilgal, sydd gyferbyn � rhiw Adummim i'r de o'r nant, a throsodd at ddyfroedd En-semes ac ymlaen at En-rogel.
8Oddi yno �i'r terfyn i fyny dyffryn Ben-hinnom i'r de o lechwedd y Jebusiaid, sef Jerwsalem, ac i ben y mynydd sy'n wynebu dyffryn Hinnom o'r gorllewin, yng nghwr gogleddol dyffryn Reffaim.
9O ben y mynydd yr oedd y terfyn yn troi am ffynnon dyfroedd Nefftoa ac yna ymlaen at drefi Mynydd Effron, cyn troi am Baala, sef Ciriath-jearim.
10O Baala yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin at Fynydd Seir ac yn croesi llechwedd gogleddol Mynydd Jearim, sef Cesalon, cyn disgyn at Beth-semes ac ymlaen at Timna.
11Wedi hyn �i'r terfyn ymlaen hyd lechwedd gogleddol Ecron, yna mynd i gyfeiriad Sicceron, ymlaen at Fynydd Baala ac at Jabneel, nes cyrraedd y m�r.
12Glannau'r M�r Mawr oedd y terfyn gorllewinol. Dyma'r terfyn o amgylch Jwda yn �l eu tylwythau.
13Yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD i Josua, rhoddwyd i Caleb fab Jeffunne randir yn Jwda, sef Ciriath-arba, hynny yw Hebron; tad yr Anaciaid oedd Arba.
14Gyrrodd Caleb allan oddi yno dri o'r Anaciaid, sef Sesai, Ahiman a Talmai, disgynyddion Anac.
15Oddi yno ymosododd ar drigolion Debir; Ciriath�seffer oedd enw Debir gynt.
16Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo."
17Othniel fab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
18Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?"
19Atebodd hithau, "Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef, rho imi hefyd ffynhonnau du373?r." Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
20Dyma etifeddiaeth llwyth Jwda yn �l eu tylwythau.
21Yng nghwr eithaf llwyth Jwda ar derfyn Edom yn y Negef, y trefi oedd Cabseel, Eder, Jagur,
22Cina, Dimona, Adada,
23Cedes, Hasor, Ithnan,
24Siff, Telem, Bealoth,
25Hasor, Hadatta, Cerioth, Hesron (sef Hasor),
26Amam, Sema, Molada,
27Hasar�gada, Hesmon, Beth-pelet,
28Hasar�sual, Beerseba, Bisiothia,
29Baala, Iim, Esem,
30Eltolad, Cesil, Horma, Siclag, Madmanna, Sansanna,
31Lebaoth, Silhim, Ain a Rimmon:
32cyfanswm o naw ar hugain o drefi a'u pentrefi.
33Yn y Seffela yr oedd Estaol, Sora, Asna,
34Sanoa, En-gannim, Tappua, Enam,
35Jarmuth, Adulam, Socho, Aseca,
36Saaraim, Adithaim, Gedera a Gederothaim: pedair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
37Senan, Hadasa, Migdal�gad,
38Dilean, Mispe, Joctheel,
39Lachis, Boscath, Eglon,
40Cabbon, Lahmam, Cithlis,
41Gederoth, Beth-dagon, Naama a Macceda: un ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.
42Libna, Ether, Asan,
43Jiffta, Asna, Nesib,
44Ceila, Achsib a Maresa: naw o drefi a'u pentrefi.
45Ecron a'i maestrefi a'i phentrefi;
46ac, i'r gorllewin o Ecron, y cwbl oedd yn ymyl Asdod, a'u pentrefi.
47Asdod, ei maestrefi a'i phentrefi; Gasa, ei maestrefi a'i phentrefi at nant yr Aifft, ac at lan y M�r Mawr.
48Yn y mynydd�dir yr oedd Samir, Jattir, Socho,
49Danna, Ciriath-sannath (sef Debir),
50Anab, Astemo, Anim,
51Gosen, Holon a Gilo: un ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
52Arab, Duma, Esean,
53Janum, Beth�tappua, Affeca,
54Humta, Ciriath-arba (sef Hebron), a S�or: naw o drefi a'u pentrefi.
55Maon, Carmel, Siff, Jutta,
56Jesreel, Jocdeam, Sanoa,
57Cain, Gibea, Timna: deg o drefi a'u pentrefi.
58Halhul, Beth�sur, Gedor,
59Maarath, Beth-anoth ac Eltecon: chwech o drefi a'u pentrefi.
60Ciriath�baal, sef Ciriath-jearim, a Rabba: dwy dref a'u pentrefi.
61Yn yr anialwch yr oedd Betharaba, Midin, Sechacha,
62Nibsan, Dinas yr Halen ac En�gedi: chwech o drefi a'u pentrefi.
63Ni allodd y Jwdeaid ddisodli'r Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem; felly y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Jwdeaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.