Josua 21:1-45 BCN1988 - Bible AI

1Daeth pennau-teuluoedd y Lefiaid at yr offeiriad Eleasar, at Josua fab Nun, ac at bennau�teuluoedd llwythau'r Israeliaid,

2a dweud wrthynt yn Seilo yng ngwlad Canaan, "Gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses roi dinasoedd i ni i fyw ynddynt, a hefyd eu porfeydd ar gyfer ein hanifeiliaid."

3Yna, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoddodd yr Israeliaid o'u hetifeddiaeth hwy y dinasoedd a nodir isod a'u porfeydd i'r Lefiaid.

4Pan ddisgynnodd y coelbren ar deuluoedd y Cohathiaid, cafodd y Lefiaid a hanoedd o Aaron yr offeiriad dair dinas ar ddeg trwy'r coelbren gan lwythau Jwda, Simeon a Benjamin.

5Cafodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse.

6Cafodd y Gersoniaid dair dinas ar ddeg yn Basan trwy'r coelbren gan deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali a hanner llwyth Manasse.

7Cafodd y Merariaid ddeuddeg dinas, yn �l eu teuluoedd, gan lwythau Reuben, Gad a Sabulon.

8Rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a'u porfeydd i'r Lefiaid trwy'r coelbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

9Rhoesant y dinasoedd a enwir yma gan lwythau Jwda a Simeon

10i'r Lefiaid o deuluoedd y Cohathiaid a hanoedd o Aaron, gan mai arnynt hwy y disgynnodd y coelbren cyntaf.

11Rhoesant iddynt Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron ym mynydd�dir Jwda, a'r porfeydd o'i hamgylch.

12Ond rhoesant dir y ddinas a'i phentrefi yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

13I ddisgynyddion Aaron yr offeiriad rhoesant Hebron, dinas noddfa i leiddiaid, hefyd Libna,

14Jattir, Estemoa,

15Holon, Debir,

16Ain, Jutta a Beth-semes, bob un �'i phorfeydd: naw dinas gan y ddau lwyth hynny.

17Ac o lwyth Benjamin rhoesant Gibeon, Geba,

18Anathoth, ac Almon, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

19Cafodd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, dair dinas ar ddeg a'u porfeydd.

20Gan lwyth Effraim y cafodd gweddill y Lefiaid o linach Cohath eu dinasoedd trwy goelbren, yn �l teuluoedd y Cohathiaid.

21Rhoesant Sichem, dinas noddfa i leiddiaid ym mynydd�dir Effraim, hefyd Geser,

22Cibsaim a Beth-horon, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

23O lwyth Dan yr oedd Eltece, Gibbethon,

24Ajalon a Gath�rimmon, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

25O hanner llwyth Manasse yr oedd Taanach a Gath-rimmon a'u porfeydd: dwy ddinas.

26Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a'u porfeydd.

27Gan hanner llwyth Manasse cafodd y Gersoniaid o blith teuluoedd y Lefiaid Golan, dinas noddfa i leiddiaid yn Basan, a hefyd Beestera, bob un �'i phorfeydd: dwy ddinas.

28O lwyth Issachar cafwyd Cison, Daberath,

29Jarmuth ac En�gannim, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

30O lwyth Aser cafwyd Misal, Abdon,

31Helcath a Rehob, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

32O lwyth Nafftali cafwyd Cedes, dinas noddfa i leiddiaid yn Galilea, a hefyd Hammoth-dor a Cartan, bob un �'i phorfeydd: tair dinas.

33Yr oedd gan y Gersoniaid, yn �l eu teuluoedd, dair dinas ar ddeg i gyd, a'u porfeydd.

34Gan lwyth Sabulon cafodd gweddill y Lefiaid a hanoedd o Merari, yn �l eu teuluoedd, Jocneam, Carta,

35Dimna a Nahalal, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

36O lwyth Reuben cafwyd Beser, Jahas,

37Cedemoth a Meffaath, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas.

38O lwyth Gad cafwyd Ramoth, dinas noddfa i leiddiaid, yn Gilead, hefyd Mahanaim,

39Hesbon a Jaser, bob un �'i phorfeydd: pedair dinas i gyd.

40Nifer y dinasoedd a gafodd y Merariaid, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, oedd deuddeg dinas i gyd, trwy'r coelbren yn �l eu teuluoedd.

41Yr oedd nifer dinasoedd y Lefiaid oddi mewn i diriogaeth yr Israeliaid yn wyth a deugain o ddinasoedd a'u porfeydd.

42Yr oedd gan bob un o'r dinasoedd hyn ei phorfeydd o'i hamgylch; dyna'r drefn gyda phob un o'r dinasoedd hyn.

43Rhoddodd yr ARGLWYDD i Israel yr holl wlad a addawodd i'w hynafiaid. Wedi iddynt ei meddiannu ac ymsefydlu ynddi,

44rhoddodd yr ARGLWYDD ddiogelwch iddynt ar bob tu, yn union fel yr addawodd i'w hynafiaid; ni allodd yr un o'u gelynion eu gwrthsefyll, oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD hwy oll yn eu dwylo.

45Ni fethodd un o'r holl bethau da a addawodd yr ARGLWYDD i du375? Israel; daeth y cwbl i ben.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>