Lefiticus 12:1-8 BCN1988 - Bible AI

1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,

2Dywed wrth bobl Israel, 'Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith diwrnod, yn union fel y mae'n aflan yn nyddiau ei misglwyf.

3Ar yr wythfed dydd enwaeder ar y bachgen.

4Yna bydd y wraig yn disgwyl tri ar ddeg ar hugain o ddyddiau am buro ei gwaed; nid yw i gyffwrdd � dim sanctaidd nac i fynd i'r cysegr nes y bydd dyddiau'r puro trosodd.

5Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos, fel y mae yn ei misglwyf; bydd yn disgwyl chwech a thrigain o ddyddiau am buro ei gwaed.

6'Pan fydd dyddiau'r puro am fab neu ferch trosodd, y mae i ddod at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod gydag oen gwryw yn boethoffrwm a chyw colomen neu durtur yn aberth dros bechod.

7Bydd yntau'n eu cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD i wneud cymod drosti, ac yna bydd yn l�n oddi wrth ei gwaedlif. Dyma'r ddeddf ynglu375?n � gwraig yn geni mab neu ferch.

8'Os na all fforddio oen, gall ddod � dwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn boethoffrwm a'r llall yn aberth dros bechod; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosti, a bydd yn l�n.'"

e>