1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2Dywed wrth bobl Israel, 'Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
3Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd � chwi. Peidiwch � dilyn eu harferion.
4Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
5Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.
6'Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD.
7'Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol �'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi.
8'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.
9'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol �'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.
10'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.
11'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi.
12'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.
13'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � chwaer dy fam, gan ei bod yn berthynas agos i'th fam.
14'Nid wyt i amharchu brawd dy dad trwy ddynesu at ei wraig; y mae'n fodryb iti.
15'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol �'th ferch-yng-nghyfraith; y mae'n wraig i'th fab, ac nid wyt i gael cyfathrach � hi.
16'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig dy frawd; byddai hynny'n amharchu dy frawd.
17'Nid wyt i gael cyfathrach rywiol � gwraig ac �'i merch, nac ychwaith � merch ei mab na merch ei merch; y maent yn perthyn yn agos iddi, a byddai hynny'n anlladrwydd.
18'Nid wyt i briodi chwaer dy wraig rhag iddi gystadlu � hi, na chael cyfathrach � hi tra bo dy wraig yn fyw.
19'Nid wyt i ddynesu at wraig i gael cyfathrach rywiol � hi yn ystod aflendid ei misglwyf.
20'Nid wyt i orwedd mewn cyfathrach gyda gwraig dy gymydog, i'th wneud dy hun yn aflan gyda hi.
21'Nid wyt i roi yr un o'th blant i'w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
22'Nid wyt i orwedd gyda dyn fel gyda gwraig; y mae hynny'n ffieidd-dra.
23'Nid wyt i orwedd gydag unrhyw anifail, i'th wneud dy hun yn aflan, ac nid yw unrhyw wraig i'w rhoi ei hun mewn cyfathrach ag anifail; y mae hynny'n wyrni.
24'Peidiwch �'ch halogi eich hunain �'r un o'r pethau hyn, oherwydd trwy'r rhain y bu'r cenhedloedd yr wyf yn eu gyrru allan o'ch blaenau yn eu halogi eu hunain.
25Halogwyd y tir, ac fe'i cosbais am ei ddrygioni, ac fe chwydodd y tir ei drigolion.
26Ond cadwch chwi fy neddfau a'm cyfreithiau, a pheidiwch � gwneud yr un o'r pethau ffiaidd hyn, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych;
27oherwydd gwnaeth y bobl oedd yn y wlad o'ch blaen chwi yr holl bethau ffiaidd hyn, a halogwyd y tir.
28Os byddwch chwi'n halogi'r tir, bydd yn eich chwydu chwithau fel y chwydodd y cenhedloedd oedd o'ch blaen chwi.
29Pwy bynnag sy'n gwneud unrhyw un o'r pethau ffiaidd hyn, fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.
30Cadwch fy ngofynion, a pheidiwch � dilyn yr arferion ffiaidd a wnaed o'ch blaen, na chael eich halogi ganddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"