Lefiticus 23:1-44 BCN1988 - Bible AI

1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Dywed wrth bobl Israel, 'Dyma fydd y gwyliau, sef gwyliau'r ARGLWYDD, a gyhoeddwch yn gym-anfaoedd sanctaidd:

3'Ar chwe diwrnod y cewch weithio, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth o orffwys, yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith, oherwydd ple bynnag yr ydych yn byw, Saboth i'r ARGLWYDD ydyw.

4'Dyma wyliau'r ARGLWYDD, y cym-anfaoedd sanctaidd yr ydych i'w cyhoeddi yn eu prydau.

5Yng nghyfnos y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf bydd Pasg yr ARGLWYDD,

6ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwnnw bydd gu373?yl y Bara Croyw i'r ARGLWYDD; am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara heb furum.

7Ar y dydd cyntaf bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.

8Am saith diwrnod cyflwynwch offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD; ar y seithfed dydd bydd cymanfa sanctaidd, ac ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith arferol.'"

9Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

10Dywed wrth bobl Israel, 'Pan ddewch i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, a medi ei chynhaeaf, yr ydych i ddod ag ysgub o flaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.

11Bydd yntau'n chwifio'r ysgub o flaen yr ARGLWYDD, iddi fod yn dderbyniol drosoch; y mae'r offeiriad i'w chwifio drannoeth y Saboth.

12Ar y diwrnod y chwifir yr ysgub yr ydych i offrymu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD oen blwydd di-nam,

13a chydag ef fwydoffrwm o bumed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD, a hefyd ddiodoffrwm o chwarter hin o win.

14Nid ydych i fwyta bara, grawn sych, na grawn ir cyn y diwrnod y byddwch yn dod �'ch rhodd i'ch Duw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.

15'O drannoeth y Saboth, sef y diwrnod y daethoch ag ysgub yr offrwm cyhwfan, cyfrifwch saith wythnos lawn.

16Cyfrifwch hanner can diwrnod hyd drannoeth y seithfed Saboth, ac yna dewch � bwydoffrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD.

17O ble bynnag y byddwch yn byw dewch � dwy dorth, wedi eu gwneud � phumed ran o effa o beilliaid a'u pobi � lefain, yn offrwm cyhwfan o'r blaenffrwyth i'r ARGLWYDD.

18Cyflwynwch gyda'r bara hwn saith oen blwydd di-nam, un bustach ifanc a dau hwrdd; byddant hwy'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

19Yna offrymwch un bwch gafr yn aberth dros bechod, a dau oen blwydd yn heddoffrwm.

20Bydd yr offeiriad yn chwifio'r ddau oen a bara'r blaenffrwyth yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD; y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD, yn eiddo'r offeiriad.

21Ar y diwrnod hwnnw yr ydych i gyhoeddi cymanfa sanctaidd, ac i beidio � gwneud unrhyw waith arferol. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ble bynnag y byddwch yn byw.

22'Pan fyddi'n medi cynhaeaf dy dir, paid � medi at ymylon dy faes, a phaid � lloffa dy gynhaeaf; gad hwy i'r tlawd a'r estron. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"

23Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

24Dywed wrth bobl Israel, 'Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis yr ydych i gael diwrnod gorffwys; bydd yn gymanfa sanctaidd, i'w dathlu � chanu utgyrn.

25Nid ydych i wneud unrhyw waith arferol, ond cyflwynwch aberth trwy d�n i'r ARGLWYDD.'"

26Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

27Yn wir, ar y degfed dydd o'r seithfed mis cynhelir Dydd y Cymod; bydd yn gymanfa sanctaidd ichwi, a byddwch yn ymddarostwng ac yn cyflwyno aberth trwy d�n i'r ARGLWYDD.

28Nid ydych i wneud unrhyw waith y diwrnod hwnnw, am ei fod yn Ddydd y Cymod, pan wneir cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.

29Bydd unrhyw un na fydd yn ymddarostwng y diwrnod hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.

30Byddaf yn difa o blith ei bobl unrhyw un a fydd yn gweithio y diwrnod hwnnw.

31Ni fyddwch yn gwneud unrhyw waith; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau i ddod, ple bynnag y byddwch yn byw.

32Y mae'n Saboth o orffwys ichwi, ac yr ydych i ymddarostwng. O gyfnos nawfed dydd y mis hyd y cyfnos drannoeth yr ydych i gadw eich Saboth yn orffwys."

33Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

34Dywed wrth bobl Israel, 'Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis cynhelir gu373?yl y Pebyll i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.

35Bydd y diwrnod cyntaf yn gymanfa sanctaidd; nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.

36Am saith diwrnod yr ydych i gyflwyno offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD, ac ar yr wythfed diwrnod bydd gennych gynulliad sanctaidd, pan fyddwch yn cyflwyno aberth trwy d�n i'r ARGLWYDD; dyma'r cynulliad terfynol, ac nid ydych i wneud unrhyw waith arferol.

37'Dyma'r gwyliau i'r ARGLWYDD a gyhoeddwch yn gymanfaoedd sanctaidd i gyflwyno offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD, sef y poethoffrymau, y bwydoffrymau, yr aberthau a'r diodoffrymau ar gyfer pob diwrnod.

38Y mae'r rhain yn ychwanegol at offrymau Sabothau'r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich holl addunedau a'ch holl offrymau gwirfodd a roddwch i'r ARGLWYDD.

39'Felly, ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, ar �l ichwi gasglu cynnyrch y tir, cynhaliwch u373?yl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod; bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod gorffwys a'r wythfed diwrnod yn ddiwrnod gorffwys.

40Ar y diwrnod cyntaf yr ydych i gymryd blaenffrwyth gorau'r coed, canghennau palmwydd, brigau deiliog a helyg yr afon, a llawenhau o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod.

41Dathlwch yr u373?yl hon i'r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau, eich bod i'w dathlu yn y seithfed mis.

42Yr ydych i fyw mewn pebyll am saith diwrnod; y mae holl frodorion Israel i fyw mewn pebyll,

43er mwyn i'ch disgynyddion wybod imi wneud i bobl Israel fyw mewn pebyll pan ddeuthum � hwy allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"

44Cyhoeddodd Moses holl wyliau'r ARGLWYDD i bobl Israel.

le>