Lefiticus 3:1-17 BCN1988 - Bible AI

1'Os heddoffrwm fydd ei rodd, ac yntau'n dod ag anifail o'r gyr, boed wryw neu fenyw, dylai gyflwyno i'r ARGLWYDD anifail di-nam.

2Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.

3o'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

4y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

5Bydd meibion Aaron yn ei losgi ar yr allor, ar ben y poethoffrwm sydd ar y coed sy'n llosgi, a bydd yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

6'Os rhodd o'r praidd fydd yr heddoffrwm i'r ARGLWYDD, dylai gyflwyno gwryw neu fenyw ddi-nam.

7Os bydd yn offrymu oen yn rhodd, y mae i'w gyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.

8Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.

9o'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD: ei fraster, y gynffon fras yn gyfan ac wedi ei thynnu i ffwrdd yn agos at yr asgwrn cefn, y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

10y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

11Hyn fydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.

12'Os gafr fydd y rhodd, dylai ei chyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.

13Y mae i osod ei law ar ei phen a'i lladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i gwaed ar bob ochr i'r allor.

14Ohoni y mae i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

15y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

16Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd; bydd yr holl fraster yn eiddo i'r ARGLWYDD.

17'Bydd hon yn ddeddf barhaol dros yr holl genedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw: nid ydych i fwyta braster na gwaed.'"

e>