Lefiticus 6:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2Os bydd unrhyw un yn pechu ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD oherwydd iddo dwyllo ei gymydog ynglu375?n � rhywbeth a ymddiriedwyd iddo, neu a adawyd yn ei ofal, neu a ladratawyd, neu oherwydd iddo dreisio ei gymydog,

3neu oherwydd iddo ddarganfod peth a gollwyd, a thwyllo a thyngu'n dwyllodrus ynglu375?n ag ef � yn wir, unrhyw un o'r pechodau a wneir gan bobl �

4pan fydd wedi pechu ac felly'n euog, dylai ddychwelyd yr hyn a ladrataodd neu a gymerodd trwy drais, neu'r hyn a ymddiriedwyd iddo, neu'r peth coll a ddarganfu,

5neu unrhyw beth y tyngodd yn dwyllodrus ynglu375?n ag ef. Y mae i dalu'n llawn amdano, ac i ychwanegu pumed ran ato a'i roi i'r perchennog y diwrnod y bydd yn gwneud offrwm dros ei gamwedd.

6Y mae i ddod � hwrdd o'r praidd at yr ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd, a hwnnw'n un di-nam ac o'r gwerth priodol.

7Yna bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto gerbron yr ARGLWYDD, ac fe faddeuir iddo am unrhyw un o'r pethau a wnaeth i fod yn euog."

8Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

9Gorchymyn i Aaron a'i feibion a dweud, 'Dyma ddeddf y poethoffrwm: Y mae'r poethoffrwm i'w adael ar aelwyd yr allor trwy'r nos hyd y bore, a'r t�n i'w gadw i losgi ar yr allor.

10Yna bydd yr offeiriad yn gwisgo'i wisgoedd lliain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff, a bydd yn codi lludw'r poethoffrwm, a yswyd gan d�n ar yr allor, ac yn ei roi wrth ymyl yr allor.

11Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu ei ddillad ac yn gwisgo dillad eraill, ac yn mynd �'r lludw y tu allan i'r gwersyll i le dihalog.

12Rhaid cadw'r t�n i losgi ar yr allor; nid yw i ddiffodd. Y mae'r offeiriad i roi coed arni bob bore, gosod y poethoffrwm arni a llosgi braster yr heddoffrwm.

13Rhaid cadw'r t�n i losgi'n barhaol ar yr allor; nid yw i ddiffodd.

14'Dyma ddeddf y bwydoffrwm: Y mae meibion Aaron i ddod ag ef o flaen yr allor gerbron yr ARGLWYDD.

15Bydd offeiriad yn cymryd ohono ddyrnaid o beilliaid, ynghyd �'r olew a'r holl thus a fydd dros y bwydoffrwm, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

16Bydd Aaron a'i feibion yn bwyta'r gweddill ohono, ond rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sanctaidd; y maent i'w fwyta yng nghyntedd pabell y cyfarfod.

17Ni ddylid ei bobi � lefain; fe'i rhoddais iddynt yn gyfran o'u hoffrymau i mi trwy d�n. Fel yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd y mae'n gwbl sanctaidd.

18Caiff pob un o feibion Aaron ei fwyta, fel y deddfwyd am byth dros eich cenedlaethau ynglu375?n �'r offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD; fe sancteiddir pwy bynnag a'u cyffwrdd.'"

19Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

20Dyma'r offrwm y mae Aaron a'i feibion i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD ar y dydd yr eneinir ef: degfed ran o effa o beilliaid yn fwydoffrwm rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner gyda'r nos.

21Bydd wedi ei baratoi ag olew ar radell; dewch ag ef wedi ei gymysgu a'i gyflwyno'n fwydoffrwm wedi ei dorri'n ddarnau, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

22Y mae i'w baratoi gan y mab sydd i ddilyn Aaron fel offeiriad eneiniog; llosgir ef yn llwyr i'r ARGLWYDD fel y deddfwyd am byth.

23Y mae pob bwydoffrwm gan offeiriad i'w losgi'n llwyr; ni ddylid ei fwyta."

24Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Dywed wrth Aaron a'i feibion,

25'Dyma ddeddf yr aberth dros bechod: Y mae'r aberth dros bechod i'w ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; bydd yn gwbl sanctaidd.

26Yr offeiriad a fydd yn ei gyflwyno'n aberth dros bechod fydd yn ei fwyta, a hynny mewn lle sanctaidd yng nghyntedd pabell y cyfarfod.

27Bydd unrhyw beth sy'n cyffwrdd �'r cig yn sanctaidd, ac os collir peth o'i waed ar wisg, rhaid ei golchi mewn lle sanctaidd.

28Rhaid torri'r llestr pridd y coginir y cig ynddo; ond os mewn llestr pres y coginir ef, rhaid ei sgwrio a'i olchi � du373?r.

29Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta; y mae'n gwbl sanctaidd.

30Ond ni ddylid bwyta unrhyw aberth dros bechod y dygir ei waed i babell y cyfarfod i wneud cymod yn y cysegr; rhaid ei losgi yn y t�n.

e>