Lefiticus 7:1-38 BCN1988 - Bible AI

1'Dyma ddeddf yr offrwm dros gamwedd sy'n gwbl sanctaidd:

2Y mae'r offrwm dros gamwedd i'w ladd yn y lle y lleddir y poethoffrwm, a'i waed i'w luchio ar bob ochr i'r allor.

3Y mae'r cyfan o'i fraster i'w offrymu, sef y gynffon fras a'r braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd,

4y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

5Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.

6Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta, ond rhaid gwneud hynny mewn lle sanctaidd; y mae'n gwbl sanctaidd.

7'Yr un yw deddf yr aberth dros bechod � deddf yr offrwm dros gamwedd: y mae'r aberth yn perthyn i'r offeiriad sy'n gwneud cymod trwyddo.

8Y mae'r offeiriad sy'n cyflwyno poethoffrwm dros unrhyw un i gadw iddo'i hun groen y poethoffrwm a gyflwynir.

9Y mae unrhyw fwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, neu wedi ei baratoi ar radell neu mewn padell, yn eiddo i'r offeiriad sy'n ei gyflwyno;

10bydd pob bwydoffrwm, boed wedi ei gymysgu ag olew neu'n sych, yn eiddo i bob un o feibion Aaron fel ei gilydd.

11'Dyma ddeddf yr heddoffrwm a gyflwynir i'r ARGLWYDD.

12Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.

13Gyda'r heddoffrwm o ddiolchgarwch dylid cyflwyno hefyd offrwm o deisennau o fara lefeinllyd.

14Deuir ag un o bob math yn offrwm i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD; bydd yn eiddo i'r offeiriad sy'n lluchio gwaed yr heddoffrwm.

15Rhaid bwyta cig yr heddoffrwm o ddiolchgarwch ar y dydd y cyflwynir ef; ni ddylid gadael dim ohono hyd y bore.

16'Os offrwm adduned neu offrwm gwirfodd fydd yr aberth, dylid ei fwyta ar y dydd y cyflwynir ef, ond gellir bwyta drannoeth unrhyw beth a fydd yn weddill.

17Rhaid llosgi yn y t�n unrhyw gig o'r offrwm a fydd yn weddill ar y trydydd dydd.

18Os bwyteir rhywfaint o gig yr heddoffrwm ar y trydydd dydd, ni fydd yr un sy'n ei gyflwyno yn dderbyniol, ac ni chyfrifir yr offrwm iddo am ei fod yn amhur; a bydd y sawl sy'n ei fwyta yn euog oherwydd hynny.

19'Ni ddylid bwyta cig a fydd wedi cyffwrdd ag unrhyw beth aflan; rhaid ei losgi yn y t�n. Ond am unrhyw gig arall, caiff unrhyw un gl�n ei fwyta.

20Os bydd unrhyw un aflan yn bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.

21Ac os bydd unrhyw un yn cyffwrdd � rhywbeth aflan, boed yn aflendid dynol, neu'n anifail aflan, neu'n ffieiddbeth aflan, ac yna'n bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.'"

22Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

23Dywed wrth bobl Israel, 'Peidiwch � bwyta dim o fraster gwartheg, defaid na geifr.

24Gallwch ddefnyddio at unrhyw ddiben fraster anifail wedi marw neu wedi ei larpio, ond ni chewch ei fwyta.

25Oherwydd torrir ymaith o blith ei bobl unrhyw un sy'n bwyta braster oddi ar anifail y gellir cyflwyno ohono offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.

26Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.

27Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.'"

28Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

29Dywed wrth bobl Israel, 'Y mae unrhyw un sy'n dod � heddoffrwm i'r ARGLWYDD i gyflwyno i'r ARGLWYDD rodd o'i heddoffrwm.

30Ei ddwylo ei hun sydd i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD; y mae i ddod �'r braster yn ogystal �'r frest, ac i chwifio'r frest yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD.

31Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.

32Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.

33Y sawl o feibion Aaron a fydd yn cyflwyno gwaed yr heddoffrwm a'r braster fydd yn cael y glun dde yn gyfran.

34Oherwydd cymerais frest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad o heddoffrwm pobl Israel, a'u rhoi i Aaron yr offeiriad a'i feibion yn gyfran reolaidd gan blant Israel.

35'Dyma'r gyfran o'r offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD a neilltuwyd i Aaron a'i feibion y diwrnod y cyflwynwyd hwy yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.

36Y diwrnod y cysegrwyd hwy gorchmynnodd yr ARGLWYDD i bobl Israel roi iddynt gyfran reolaidd dros eu cenedlaethau.

37'Dyma felly ddeddf y poethoffrwm, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod, yr offrwm dros gamwedd, offrwm yr ordeiniad a'r heddoffrwm,

38a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ym Mynydd Sinai y dydd y gorchmynnodd i bobl Israel gyflwyno'u hoffrymau i'r ARGLWYDD yn anialwch Sinai.'"

e>