Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 4:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Y mae'r Ysbryd yn dweud yn eglur y bydd rhai mewn amserau diweddarach yn cefnu ar y ffydd. Byddant yn troi at ysbrydion twyllodrus ac at bethau y mae cythreuliaid yn eu dysgu trwy ragrith pobl gelwyddog.

2Pobl yw'r rhain �'u cydwybod wedi ei serio,

3yn gwahardd priodi, ac yn mynnu fod pobl yn ymwrthod � bwydydd � bwydydd y mae Duw wedi eu creu i'w derbyn � diolch gan y credinwyr sydd wedi canfod y gwirionedd.

4Oherwydd y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac ni ddylid gwrthod dim yr ydym yn ei dderbyn � diolch iddo ef,

5oherwydd y mae'n cael ei sancteiddio trwy air Duw a gweddi.

6Os dygi di'r pethau hyn i sylw'r gynulleidfa, byddi'n was da i Grist Iesu, yn dy feithrin dy hun � geiriau'r ffydd, a'r athrawiaeth dda yr wyt wedi ei dilyn.

7Paid � gwrando ar chwedlau bydol hen wrachod, ond ymarfer dy hun i fod yn dduwiol.

8Wrth gwrs, y mae i ymarfer y corff beth gwerth, ond i ymarfer duwioldeb y mae pob gwerth, gan fod ynddo addewid o fywyd yn y byd hwn a'r byd a ddaw.

9Dyna air i'w gredu, sy'n teilyngu derbyniad llwyr.

10I'r diben hwn yr ydym yn llafurio ac yn ymdrechu, oherwydd rhoesom ein gobaith yn y Duw byw, sy'n Waredwr i bawb, ond i'r credinwyr yn fwy na neb.

11Gorchymyn y pethau hyn i'th bobl, a dysg hwy iddynt.

12Paid � gadael i neb dy ddiystyru am dy fod yn ifanc. Yn hytrach, bydd di'n batrwm i'r credinwyr mewn gair a gweithred, mewn cariad a ffydd a phurdeb.

13Hyd nes imi ddod, rhaid i ti ymroi i'r darlleniadau a'r pregethu a'r hyfforddi.

14Paid ag esgeuluso'r ddawn sydd ynot ac a roddwyd iti trwy eiriau proffwydol ac arddodiad dwylo'r henuriaid.

15Gofala am y pethau hyn, ymdafla iddynt, a bydd dy gynnydd yn amlwg i bawb.

16Cadw lygad arnat ti dy hun ac ar yr hyfforddiant a roddi, a dal ati yn y pethau hyn. Os gwnei di felly, yna fe fyddi'n dy achub dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat.

small>