Llythyr Cyntaf Paul at Timotheus 5:1-25 BCN1988 - Bible AI

1Paid � cheryddu hynafgwr, ond ei gymell fel petai'n dad i ti, y dynion ifainc fel brodyr,

2y gwragedd hu375?n fel mamau, a'r merched ifainc � phurdeb llwyr fel chwiorydd.

3Cydnabydda'r gweddwon, y rheini sy'n weddwon mewn gwirionedd.

4Ond os oes gan y weddw blant neu wyrion, dylai'r rheini yn gyntaf ddysgu ymarfer eu crefydd tuag at eu teulu, a thalu'n �l i'w rhieni y ddyled sydd arnynt, oherwydd hynny sy'n gymeradwy gan Dduw.

5Ond am yr un sy'n weddw mewn gwirionedd, yr un sydd wedi ei gadael ar ei phen ei hun, y mae hon �'i gobaith wedi ei sefydlu ar Dduw, ac y mae'n parhau nos a dydd mewn ymbiliau a gwedd�au.

6Y mae'r weddw afradlon, ar y llaw arall, gystal � marw er ei bod yn fyw.

7Gorchymyn di y pethau hyn hefyd, er mwyn i'r gweddwon fod yn ddigerydd.

8Ond pwy bynnag nad yw'n darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu'r ffydd ac y mae'n waeth nag anghredadun.

9Ni ddylid rhoi gwraig ar restr y gweddwon os nad yw dros drigain oed, ac a fu'n wraig i un gu373?r.

10A rhaid cael prawf iddi ymroi i weithredoedd da: iddi fagu plant, iddi roi llety i ddieithriaid, iddi olchi traed y saint, iddi gynorthwyo pobl mewn cyfyngder, yn wir iddi ymdaflu i bob math o weithredoedd da.

11A phaid � chynnwys y rhai iau ar restr y gweddwon, oherwydd cyn gynted ag y bydd eu nwydau yn eu dieithrio oddi wrth Grist, daw arnynt chwant priodi,

12a ch�nt eu condemnio felly am dorri'r adduned a wnaethant ar y dechrau.

13At hynny, byddant yn dysgu bod yn ddiog wrth fynd o gwmpas y tai, ac nid yn unig yn ddiog ond hefyd yn siaradus a busneslyd, yn dweud pethau na ddylid.

14Fy nymuniad, felly, yw bod gweddwon iau yn priodi, yn magu plant ac yn cadw tu375?, a pheidio � rhoi cyfle i unrhyw elyn i'n difenwi.

15Oherwydd y mae rhai gweddwon eisoes wedi mynd ar gyfeiliorn a chanlyn Satan.

16Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd.

17Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi.

18Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: "Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu", a hefyd: "Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog."

19Paid � derbyn cyhuddiad yn erbyn henuriad os na fydd hyn ar air dau neu dri o dystion.

20Y rhai ohonynt sy'n dal i bechu, cerydda hwy yng ngu373?ydd pawb, i godi ofn ar y gweddill yr un pryd.

21Yr wyf yn dy rybuddio, yng ngu373?ydd Duw a Christ Iesu a'r angylion etholedig, i gadw'r rheolau hyn yn ddiragfarn, a'u gweithredu ar bob adeg yn ddiduedd.

22Paid � bod ar frys i arddodi dwylo ar neb, a thrwy hynny gyfranogi ym mhechodau pobl eraill; cadw dy hun yn bur.

23Bellach, paid ag yfed du373?r yn unig, ond cymer ychydig o win at dy stumog a'th aml anhwylderau.

24Y mae pechodau rhai pobl yn eglur ddigon, ac yn eu rhagflaenu i farn, ond y mae eraill sydd �'u pechodau yn eu dilyn.

25Yn yr un modd, y mae gweithredoedd da yn eglur ddigon, a hyd yn oed os nad ydynt, nid oes modd eu cuddio.

small>