1Y mae'r rhai sy'n gaethweision dan yr iau i gyfrif eu meistri eu hunain yn deilwng o wir barch, fel na chaiff enw Duw, na'r athrawiaeth Gristionogol, air drwg.
2Ac ni ddylai'r rhai sydd �'u meistri'n gredinwyr roi llai o barch iddynt am eu bod yn gyd-gredinwyr. Yn hytrach, dylent roi gwell gwasanaeth iddynt am mai credinwyr sy'n annwyl ganddynt yw'r rhai fydd yn elwa ar eu hymroddiad. Dyma'r pethau yr wyt ti i'w dysgu a'u cymell.
3Os bydd rhywun yn dysgu'n groes i hyn, ac yn gwrthod glynu wrth eiriau iachusol, geiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac wrth athrawiaeth sy'n gyson � bywyd duwiol,
4y mae hwnnw'n llawn balchder, heb ddeall dim, ag awydd afiach ynddo i godi cwestiynau a dadlau am eiriau. Cenfigen a chynnen ac enllib, a drwgdybio cywilyddus ac anghydweld parhaus, sy'n dod o bethau felly,
5mewn pobl sydd �'u meddyliau wedi eu llygru ac sydd wedi eu hamddifadu o'r gwirionedd, rhai sy'n tybio mai modd i ennill cyfoeth yw bywyd duwiol.
6Ac wrth gwrs, y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd � bodlonrwydd mewnol.
7A'r ffaith yw, na ddaethom � dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd � dim allan ohono.
8Os oes gennym fwyd a dillad, gadewch inni fodloni ar hynny.
9Y mae'r rhai sydd am fod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiynau a maglau, a llu o chwantau direswm a niweidiol, sy'n hyrddio pobl i lawr i ddistryw a cholledigaeth.
10Oherwydd gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian, ac wrth geisio cael gafael ynddo crwydrodd rhai oddi wrth y ffydd, a'u trywanu eu hunain ag arteithiau lawer.
11Ond yr wyt ti, u373?r Duw, i ffoi rhag y pethau hyn, ac i roi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder.
12Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer.
13Yng ngu373?ydd Duw, sy'n rhoi bywyd i bob peth, ac yng ngu373?ydd Crist Iesu, a dystiodd i'r un gyffes lew o flaen Pontius Pilat, yr wyf yn dy gymell
14i gadw'r gorchymyn yn ddi-fai a digerydd hyd at ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,
15a amlygir yn ei amser addas gan yr unig Bennaeth bendigedig, Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi.
16Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae'n preswylio. Nid oes neb wedi ei weld, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen.
17Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio � bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sy'n rhoi inni yn helaeth bob peth i'w fwynhau.
18Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu,
19ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu'r bywyd sydd yn fywyd yn wir.
20Timotheus, cadw'n ddiogel yr hyn a ymddiriedwyd i'th ofal, a thro dy gefn ar y gwag siarad bydol, a'r gwrthddywediadau a gamenwir yn wybodaeth.
21Y mae rhai sy'n proffesu'r wybodaeth hon wedi gwyro ymhell oddi wrth y ffydd. Gras fyddo gyda chwi!