Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid 11:1-34 BCN1988 - Bible AI

1Byddwch yn efelychwyr ohonof fi, fel yr wyf finnau o Grist.

2Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.

3Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gu373?r yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gu373?r, ac mai pen Crist yw Duw.

4Y mae pob gu373?r sy'n gwedd�o neu'n proffwydo � rhywbeth am ei ben yn gwaradwyddo'i ben.

5Ond y mae pob gwraig sy'n gwedd�o neu'n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo'i phen; y mae hi'n union fel merch sydd wedi ei heillio.

6Oherwydd os yw gwraig heb orchuddio'i phen, yna fe ddylai hi dorri ei gwallt yn llwyr. Ond os yw'n waradwydd i wraig dorri ei gwallt neu eillio ei phen, fe ddylai hi wisgo gorchudd.

7Ni ddylai gu373?r orchuddio'i ben, ac yntau ar ddelw Duw ac yn ddrych o'i ogoniant ef. Ond drych o ogoniant y gu373?r yw'r wraig.

8Oherwydd nid y gu373?r a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gu373?r.

9Ac ni chrewyd y gu373?r er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gu373?r.

10Am hynny, dylai'r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion.

11Beth bynnag am hynny, yn yr Arglwydd y mae'r gu373?r yn angenrheidiol i'r wraig a'r wraig yn angenrheidiol i'r gu373?r.

12Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gu373?r, felly hefyd y daw'r gu373?r drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.

13Barnwch drosoch eich hunain: a yw'n weddus i wraig wedd�o ar Dduw heb orchudd ar ei phen?

14Onid yw natur ei hun yn eich dysgu mai anfri yw i ddyn dyfu ei wallt yn hir,

15ond mai gogoniant gwraig yw tyfu ei gwallt hi'n hir? Oherwydd rhoddwyd ei gwallt iddi hi i fod yn fantell iddi.

16Ond os myn neb fod yn gecrus, nid oes gennym ni unrhyw arfer o'r fath, na chan eglwysi Duw chwaith.

17Ond wrth eich cyfarwyddo, dyma rywbeth nad wyf yn ei ganmol ynoch, eich bod yn ymgynnull, nid er gwell, ond er gwaeth.

18Yn gyntaf, pan fyddwch yn ymgynnull fel eglwys, yr wyf yn clywed bod ymraniadau yn eich plith, ac rwy'n credu bod peth gwir yn hyn.

19Oherwydd y mae pleidiau yn eich plith yn anghenraid, er mwyn i'r rhai dilys yn eich mysg ddod i'r golwg.

20Felly, pan fyddwch yn ymgynnull, nid swper yr Arglwydd y byddwch yn ei fwyta,

21oherwydd yn y bwyta y mae pob un yn rhuthro i gymryd ei swper ei hun, ac y mae eisiau bwyd ar un, ac un arall yn feddw.

22Onid oes gennych dai i fwyta ac yfed ynddynt? Neu a ydych yn mynnu dirmygu eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai sydd heb ddim? Beth a ddywedaf wrthych? A wyf i'ch canmol? Yn hyn o beth, nid wyf yn eich canmol.

23Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara;

24ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, "Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf."

25Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar �l swper, gan ddweud, "Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf."

26Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.

27Felly, pwy bynnag fydd yn bwyta'r bara neu'n yfed cwpan yr Arglwydd yn annheilwng, bydd yn euog o drosedd yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.

28Bydded i bob un ei holi ei hunan, ac felly bwyta o'r bara ac yfed o'r cwpan.

29Oherwydd y mae'r sawl sydd yn bwyta ac yn yfed, os nad yw'n dirnad y corff, yn bwyta ac yn yfed barn arno'i hun.

30Dyna pam y mae llawer yn eich plith yn wan ac yn glaf, a chryn nifer wedi marw.

31Ond pe baem yn ein barnu ein hunain yn iawn, ni fyddem yn dod dan farn.

32Ond pan fernir ni gan yr Arglwydd, cael ein disgyblu yr ydym, rhag i ni gael ein condemnio gyda'r byd.

33Felly, fy nghyfeillion, pan fyddwch yn ymgynnull i fwyta, arhoswch am eich gilydd.

34Os bydd ar rywun eisiau bwyd, dylai fwyta gartref, rhag i'ch ymgynulliad arwain i farn arnoch. Ond am y pethau eraill, caf roi trefn arnynt pan ddof atoch.

988