1Ynglu375?n �'r casgliad i'r saint, gweithredwch chwithau hefyd yn �l y cyfarwyddiadau a roddais i eglwysi Galatia.
2Y dydd cyntaf o bob wythnos, bydded i bob un ohonoch, yn �l ei enillion, osod cyfran o'r neilltu ac ar gadw, fel nad pan ddof fi y gwneir y casgliadau.
3Wedi imi gyrraedd, mi anfonaf pwy bynnag sydd yn gymeradwy yn eich golwg chwi, i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem, gyda llythyrau i'w cyflwyno.
4Neu, os bydd yn ymddangos yn iawn i minnau fynd hefyd, fe g�nt deithio gyda mi.
5Mi ddof atoch chwi ar �l mynd trwy Facedonia, oherwydd trwy Facedonia yr wyf am deithio.
6Ac efallai yr arhosaf gyda chwi am ysbaid, neu hyd yn oed dros y gaeaf, er mwyn i chwi fy hebrwng i ba le bynnag y byddaf yn mynd.
7Oherwydd nid wyf am edrych amdanoch, y tro hwn, fel un yn taro heibio ar ei hynt. Rwy'n gobeithio cael aros gyda chwi am beth amser, os bydd yr Arglwydd yn caniat�u.
8Ond rwyf am aros yn Effesus tan y Pentecost.
9Oherwydd y mae drws llydan wedi ei agor imi, un addawol, er bod llawer o wrthwynebwyr.
10Os daw Timotheus, gofalwch ei wneud yn ddibryder yn eich plith, oherwydd y mae ef, fel minnau, yn gwneud gwaith yr Arglwydd.
11Am hynny, peidied neb �'i ddiystyru, ond hebryngwch ef ar ei ffordd � s�l eich bendith, iddo gael dod ataf fi. Oherwydd yr wyf yn ei ddisgwyl gyda'r credinwyr.
12Ynglu375?n �'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.
13Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch.
14Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad.
15Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint.
16Yr wyf yn erfyn arnoch, gyfeillion, i ymostwng i rai felly, a phawb sydd yn cydweithio ac yn llafurio gyda ni.
17Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi.
18Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly.
19Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tu375?, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd.
20Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd � chusan sanctaidd.
21Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul.
22Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha.
23Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi!
24Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!