Llythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid 3:1-23 BCN1988 - Bible AI

1Minnau, gyfeillion, ni ellais lefaru wrthych fel wrth rai ysbrydol, ond fel wrth rai cnawdol, fel babanod yng Nghrist.

2Llaeth a roddais i chwi'n ymborth, ac nid bwyd solet, oherwydd nid oeddech eto'n barod. Ac nid ydych yn barod yn awr chwaith,

3oherwydd cnawdol ydych o hyd. Oherwydd, tra bo cenfigen a chynnen yn eich plith, onid cnawdol ydych, ac yn ymddwyn yn �l safonau dynol?

4Pan yw un yn dweud, "Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul", ac un arall, "Minnau, i blaid Apolos", onid dynol ydych?

5Beth ynteu yw Apolos? Neu beth yw Paul? Dim ond gweision y daethoch chwi i gredu drwyddynt, a phob un yn cyflawni'r gorchwyl a gafodd gan yr Arglwydd.

6Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant.

7Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant.

8Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei d�l ei hun, yn �l ei lafur ei hun.

9Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi.

10Yn �l y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni.

11Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno.

12Os bydd i neb adeiladu ar y sylfaen ag aur, arian, a meini gwerthfawr, neu � choed, gwair, a gwellt,

13daw gwaith pob un i'r amlwg, oherwydd y Dydd a'i dengys. Canys � th�n y datguddir y Dydd hwnnw, a bydd y t�n yn profi ansawdd gwaith pob un.

14Os bydd y gwaith a adeiladodd rhywun ar y sylfaen yn aros, caiff d�l.

15Os llosgir gwaith rhywun, caiff ddwyn y golled, ond fe achubir yr adeiladydd ei hun, ond dim ond megis trwy d�n.

16Oni wyddoch mai teml Duw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?

17Os bydd rhywun yn dinistrio teml Duw, bydd Duw'n ei ddinistrio yntau, oherwydd y mae teml Duw yn sanctaidd, a chwi yw'r deml honno.

18Peidied neb �'i dwyllo'i hunan; os oes rhywun yn eich plith yn tybio ei fod yn ddoeth yn �l safonau'r oes hon, bydded ff�l, er mwyn dod yn ddoeth.

19Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig: "Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra",

20ac eto: "Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion, mai ofer ydynt."

21Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi �

22Paul, Apolos, Ceffas, y byd, bywyd, angau, y presennol, y dyfodol � pob peth yn eiddo i chwi,

23a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.

88