Llythyr Cyntaf Paul at y Thesaloniaid 4:1-18 BCN1988 - Bible AI

1Bellach, gyfeillion, fel y cawsoch eich hyfforddi gennym ni pa fodd y dylech fyw er mwyn boddhau Duw (ac felly, yn wir, yr ydych yn byw), yr ydym yn gofyn ichwi, ac yn deisyf arnoch yn yr Arglwydd Iesu, i ragori fwyfwy.

2Oherwydd gwyddoch pa gyfarwyddyd a roddasom ichwi oddi wrth yr Arglwydd Iesu.

3Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, ichwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol;

4y mae pob un ohonoch i wybod sut i gadw ei gorff ei hun mewn sancteiddrwydd a pharch,

5ac nid yn nwyd trachwant, fel y cenhedloedd nad ydynt yn adnabod Duw;

6nid yw neb i gam-drin ei gyd-grediniwr, na manteisio arno yn ei ymwneud ag ef, oherwydd, fel y dywedasom wrthych o'r blaen, a'ch rhybuddio, y mae'r Arglwydd yn dial am yr holl bethau hyn.

7Oherwydd galwodd Duw ni, nid i amhurdeb ond i sancteiddrwydd.

8Gan hynny, y mae'r sawl sydd yn diystyru hyn yn diystyru neb ond Duw, yr hwn sy'n rhoi ei Ysbryd Gl�n i chwi.

9Ynglu375?n � chariad at eich gilydd, nid oes arnoch angen i neb ysgrifennu atoch; oherwydd yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd.

10Ac yn wir, yr ydych yn gwneud hyn i bawb o'r credinwyr trwy Facedonia gyfan; ond yr ydym yn eich annog, gyfeillion, i ragori fwyfwy:

11i roi eich bryd ar fyw yn dawel, a dilyn eich gorchwylion eich hunain, a gweithio �'ch dwylo eich hunain, fel y gorchmynasom ichwi.

12Felly byddwch yn ymddwyn yn weddaidd yng ngolwg y rhai sydd y tu allan, ac ni fydd angen dim arnoch.

13Yr ydym am ichwi wybod, gyfeillion, am y rhai sydd yn huno, rhag ichwi fod yn drallodus, fel y rhelyw sydd heb ddim gobaith.

14Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod �'r rhai a hunodd drwy Iesu.

15Hyn yr ydym yn ei ddweud wrthych ar air yr Arglwydd: ni fyddwn ni, y rhai byw a adewir hyd ddyfodiad yr Arglwydd, yn rhagflaenu dim ar y rhai sydd wedi huno.

16Oherwydd pan floeddir y gorchymyn, pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf,

17ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod �'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus.

18Calonogwch eich gilydd, felly, �'r geiriau hyn.

988