Llythyr Iago 5:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch.

2Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad.

3Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel t�n. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf.

4Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd.

5Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa.

6Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll.

7Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar.

8Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos.

9Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws.

10Ystyriwch, gyfeillion, fel esiampl o rai'n dioddef yn amyneddgar, y proffwydi a lefarodd yn enw'r Arglwydd.

11Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog.

12Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch � thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich "ie" yn "ie" yn unig, a'ch "nage" yn "nage" yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn.

13A oes rhywun yn eich plith mewn adfyd? Dylai wedd�o. A oes rhywun yn llawen? Dylai ganu mawl.

14A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i wedd�o trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd.

15Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iach�u y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant.

16Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gwedd�wch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iach�d. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn.

17Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian � ninnau, ac fe wedd�odd ef yn daer am iddi beidio � glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis.

18Yna gwedd�odd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth.

19Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n �l,

20boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.

icle>