Llythyr Paul at Titus 3:1-15 BCN1988 - Bible AI

1Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda;

2i beidio � bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb.

3Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ff�l, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn cas�u ein gilydd.

4Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl,

5fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Gl�n,

6a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr.

7Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.

8Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb.

9Ond gochel gwestiynau ff�l, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt.

10Am yr un a fyn greu rhaniadau, ar �l iddo gael ei rybuddio, a'i ailrybuddio, paid � gwneud dim mwy ag ef;

11fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.

12Pan anfonaf Artemas neu Tychicus atat, gwna dy orau i ddod ataf i Nicopolis, oherwydd yr wyf wedi penderfynu bwrw'r gaeaf yno.

13Gwna dy orau hefyd dros y cyfreithiwr, Zenas, ac Apolos, i'w hebrwng ar eu taith, gan ofalu na fyddant yn fyr o ddim.

14Rhaid i'n pobl ni hefyd ddysgu ymroi i waith gonest i gyfarfod ag angenrheidiau bywyd; os na wn�nt, byddant yn ddi-les.

15Y mae pawb sydd gyda mi yn dy gyfarch. Rho fy nghyfarchion i'r rhai sydd yn ein caru yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll!

ter>