1Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
2Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.
3Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.
4Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi, yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.
5Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.
6O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd.
7Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol.
8Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau.
9Peidiwch � dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd �'i gweithredoedd,
10ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr.
11Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth.
12Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch am-danoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.
13Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gu373?yn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.
14Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.
15Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.
16Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. � chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
17Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
18Chwi wragedd, byddwch ddar-ostyngedig i'ch gwu375?r; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd.
19Chwi wu375?r, carwch eich gwragedd, a pheidiwch � bod yn llym wrthynt.
20Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd.
21Chwi dadau, peidiwch � chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni.
22Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd.
23Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch �'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall.
24Gwyddoch mai oddi wrth yr Arglwydd y byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi.
25Oherwydd y sawl sy'n gwneud cam fydd yn derbyn y cam yn �l; nid oes ffafriaeth.